Mae'r cyfyngiad dros dro ar hyd muriau tref Conwy o'r Tŵr Gwylio i lawr i Borth yr Adain wedi galluogi ein harbenigwyr cadwraeth – gan weithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr cadwraeth – i asesu'n drylwyr yr angen i wella mynediad i ymwelwyr i'r rhan amlwg hon o’r Safle Treftadaeth y Byd.
Mae Cadw wedi ymrwymo i ehangu mynediad i'w safleoedd hanesyddol ac mae ein gwaith ar furiau tref Conwy yn cynnwys rheiliau mwy cadarn a phaneli rhwyll amddiffynnol i roi profiad mwy diogel i ymwelwyr.
Mae angen cyflwyno cais am Gydsyniad Heneb Gofrestredig cyn y gall unrhyw waith ddechrau ar heneb hanesyddol. Ceir craffu gofalus iawn ar y ceisiadau hyn cyn y rhoddir caniatâd i fwrw ymlaen.
Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei wneud ar ddiwedd y flwyddyn hon gyda'r muriau’n ailagor yn llawn ar gyfer Pasg 2026.
Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares, Harlech ac yma yng Nghonwy, mae’r muriau trefol hyn ymhlith y ceinaf a’r mwyaf cyflawn yn Ewrop. Ymestynnant yn ddi-dor bron o gwmpas canol canoloesol Conwy, a hynny am dri chwarter milltir, gyda 21 o dyrau a thri phorth gwreiddiol ar eu hyd. Os nad oes ofn uchder arnoch, gallwch fynd am dro ar ben y wal wrth iddi ddolennu o gwmpas strydoedd canoloesol cyfyng Conwy.
Hon yw’r sioe orau am ddim yn y dref, ac mae’n brofiad cyffrous sy’n tanlinellu pur faint y darn godidog hwn o adeiladwaith canoloesol, yn ogystal â chynnig golygfeydd ysblennydd o Gastell Conwy aruchel, y foryd ac Eryri.
Yn ddiweddar (ers mis Ebrill 2025) mae Cadw wedi cymryd ‘Y Croeshoeliad a Ffordd y Groes yn Eglwys Gatholig Sant Mihangel’, sydd wedi’i lleoli oddi ar Rosemary Lane, i Ofal y Wladwriaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y paneli ar gael yn adroddiad rhestru Cadw.
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | Ar agor drwy’r flwyddyn |
|---|---|
|
Ar agor drwy'r flwyddyn yng ngolau dydd |
|
Maes parcio Talu ac Arddangos
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 4 – anodd
Polisi dronau
Dim ysmygu
Iechyd a Diogelwch
Yn amgylchynu tref Conwy, y lle hawsaf i chi ddechrau eich taith yw maes parcio Castell Conwy
Mae'r waliau wedi'u rhannu'n adrannau, a bydd angen defnyddio’r grisiau modern wrth fynd i mewn ac allan o’r gwahanol adrannau. Po bellaf y byddwch chi’n mynd, y mwyaf serth yw’r llwybr. Cofiwch eu bod yn waliau hanesyddol, a’u bod yn anwastad mewn mannau. Defnyddiwch y canllawiau.
Rydym yn gofyn yn glên i chi fod yn gwrtais wrth eraill, ac i adael iddyn nhw fynd heibio mewn mannau cyfyng.
Gan fod y muriau’n gul iawn mewn mannau, nid ydym yn caniatáu cŵn ar lwybrau’r waliau. Mae hyn yn lleihau'r perygl i’ch ci lithro o dan y rheiliau diogelwch, a bydd yn eich amddiffyn chi ac eraill. Peidiwch â dringo nac eistedd ar unrhyw ran o'r gwaith cerrig.
Dim ond y goleuadau stryd cyfagos sydd i oleuo’r llwybr. Rydym yn argymell i chi beidio â cherdded y muriau gyda’r nos neu pan fo hi’n dywyll (yn hwyr gyda'r nos ac yn gynnar y bore yn y gaeaf).
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Camau serth ac anwastad
Adar sy'n nythu
Gwyntoedd uchel
Toeau Isel
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol