Caer ganoloesol fawreddog yn dal i sefyll uwchben y dref ar ôl 700 mlynedd
Diolch i’r grisiau tro a adferwyd yn ei dyrau mawr, gallwch gerdded cylch cyflawn o gwmpas bylchfuriau Castell Conwy. Argymhellwn hynny’n fawr. Hon yw un o’r caerau canoloesol mwyaf mawreddog yn Ewrop.
Yn y pellter cwyd mynyddoedd clegyrog Eryri ac oddi tanoch mae harbwr a strydoedd cul Conwy yn ymestyn o’ch blaenau - wedi’u gwarchod o hyd gan 1,400 o lathenni (1.3km) o gylch di-dor o furiau trefol.
Mae’n ddigon i fynd â’ch gwynt. Yn enwedig o ystyried bod Brenin Edward I a’i bensaer James o San Siŵr wedi adeiladu’r castell a’r waliau mewn pedair blynedd anhygoel rhwng 1283 a 1287.
Cymer Conwy ei le ochr yn ochr â chestyll gwych eraill Edward ym Miwmares, Harlech a Chaernarfon yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mae’r gaer enwog hon mewn cyflwr eithriadol o dda. Mae’n cynnwys y gyfres fwyaf cyflawn o randai brenhinol canoloesol yng Nghymru. Cwyd y llenfur uchel ac wyth tŵr urddasol bron mor drawiadol ag adeg eu hadeiladu fwy na 700 mlynedd yn ôl.
Felly peidiwch ag ofni dringo’r grisiau hynny, os gallwch chi, er mwyn llawn brofi Conwy. Nid oes un lle gwell ym Mhrydain i sefyll ar y bylchfuriau a breuddwydio.
Sut i ymweld
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Expand image
Expand image
Expand image
| 1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am–5pm |
|---|---|
| 1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am–6pm |
| 1st Medi - 31st Hydref | 9.30am–5pm |
| 1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am–4pm |
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. |
|
| Categori | Un lleoliad Price | Dau leoliad Price |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Free
|
| Oedolyn |
£12.50
|
£15.70
|
| Teulu* |
£40.00
|
£50.20
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Free
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£8.70
|
£10.90
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£11.20
|
£14.10
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
||
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Toiledau hygyrch
Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.
Cŵn tywys yn unig
Cŵn tywys yn unig yn y safle.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Mynediad i feiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Maes parcio talu ac arddangos amser byr y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr.
Mae lleoedd parcio talu ac arddangos i bobl anabl.
Maes parcio amser hir i geir/bysiau y tu allan i Furiau'r Dref.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Toiledau i ymwelwyr ar lefel isaf y ganolfan ymwelwyr gyda chyfleusterau newid cewynnau.
Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr
Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 4 – anodd
Taith sain
Canllaw sain am ddim ar gael i aelodau Cadw.
Ddim Aelodau - £3.00
Grwpiau teithiau - £2.50
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Archebwch eich ymweliadau addysg hunan-dywysedig am ddim
Edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddimi helpu gyda'ch antur teithio amser!
Iechyd a Diogelwch
Mae’r castell yng nghanol tref Conwy, ac mae golygfeydd gwych i’w cael ohono ac o furiau’r dref.
Mae'r ganolfan ymwelwyr wedi'i lleoli wrth droed y castell. Rhaid dilyn llwybr serth ag ambell i ris i gyrraedd mynedfa’r castell.
Mae toiledau o dan y ganolfan ymwelwyr sydd ar y llawr cyntaf ac mae angen defnyddio grisiau i’w cyrraedd.
Mae toiled i bobl anabl ar y llawr gwaelod, wrth fynedfa'r ganolfan ymwelwyr.
Gallwch grwydro ardaloedd uwch ac is o fewn y castell. Cerrig crynion sydd dan droed, a gall y llawr fod yn anwastad.
Mae mannau uwch lle gallwch gael golygfeydd i’w cyrraedd trwy ddringo grisiau troellog. Mae hi’n dywyllach o fewn y tyrrau, ac mae’r grisiau hynafol yn serth.
Defnyddiwch y canllawiau, ewch yn araf, a byddwch yn gwrtais i ymwelwyr eraill pan fyddwch yno.
Mae hen waliau isel mewn sawl lleoliad, ond os byddwch yn wyliadwrus o blant o fewn eich grŵp ac yn ymwybodol o’ch diogelwch eich hun, ni ddylai hyn fod yn broblem.
Arhoswch ar y llwybrau dynodedig a pheidiwch â dringo unrhyw ran o'r heneb, gan gynnwys y muriau a’r rhwystrau diogelwch.
Rydym yn gweithio'n barhaus i gyrraedd safonau adeiladu modern, lle bo hynny'n bosibl.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Gwyntoedd uchel
Golau gwael
Cerrig yn disgyn
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost ConwyCastle@llyw.cymru
Cod post LL32 8AY
what3words: ///trwsiwr.ffitiodd.llall
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50