Skip to main content

Cadwch lygad barcud wrth gerdded o gwmpas Castell Conwy am olion rendrad calch ar y waliau. Maen nhw’n dweud rhywbeth cwbl anhygoel wrthych. Gwyn oedd lliw gwreiddiol y gaer dywyll o ddigroeso hon.    

Dychmygwch ymwelydd yn y 13eg ganrif yn syllu ar draws Afon Conwy at waliau gwyn disglair y castell, a llumanau herodrol, caeadau wedi’u peintio a tharianau’n hongian o’r bylchfuriau. Yn wir, roedd yma gaer ddigon gweddus i frenin – y tu mewn a’r tu allan.

Yn gyntaf, cododd y pensaer James o San Siôr y tyrau mawr a’r llenfur. Nid oedd diben cael moethau cyn diogelu’r castell. Yna, adeiladodd gyfres o randai brenhinol y tu mewn i’r gragen allanol arw hon.  

Yr hyn sy’n parhau yng Nghonwy yw’r gyfres fwyaf cyflawn o ystafelloedd preswyl lle trigai’r frenhiniaeth ganoloesol unrhyw le yng Nghymru neu Loegr. Ni ddaw Tŵr Llundain yn agos hyd yn oed.   

Mae croeso ichi ddringo’r grisiau tro neu olrhain teithiau’r gweision celfydd rhwng yr ystafelloedd. Archwiliwch Siambr Fawr y Brenin, y capel hardd llawn awyrgylch neu’r ‘siambr wylio’ – gyda’i thŷ bach ei hun – lle gallai pwysigion brenhinol wylio gwasanaethau crefyddol yn breifat. 

Cewch gipolwg byw ar fywyd llys brenhinol canoloesol Lloegr. Serch hynny, roedd brenhinoedd a breninesau gwirioneddol yn amlwg, gan mwyaf, am eu habsenoldeb.

Er iddo wario £15,000 aruthrol ar Gastell Conwy, dim ond unwaith yr arhosodd Edward I yma. Wedi’i faglu gan wrthryfel y Cymry ym 1294, treuliodd Nadolig diflas yma, a dim ond un gasgen o win i’w gysuro yn seler y castell.  

Bu farw ei frenhines Elinor o Castile, yr oedd James y pensaer wedi adeiladu siambr gymharol fach iddi ar y llawr cyntaf, ym 1290 ar ôl blynyddoedd dramor. Dim ond fel safle adeiladu y gallai hi fod wedi gweld Conwy.  

Ym 1301 daeth Edward II y dyfodol i’r castell i gael gwrogaeth yn Dywysog Cymru ac arhosodd am ddeufis. Cynhaliodd Conwy hefyd gyd-drafodaethau annifyr rhwng Rhisiart II a’r rheini a fyddai’n ei ddal yn y pen draw ym 1399.

Yn ôl hanes, dyma’r unig adeg y defnyddiwyd y rhandai brenhinol at y diben a fwriadwyd. Erbyn yr 17eg ganrif, roedd yr ystafell wreiddiol a chanddi ddwy fynedfa – un i’r brenin ac un i’r frenhines – wedi’i throi’n uned sengl.   

Erbyn hyn, mae’r ystafelloedd yn fwy preifat byth wrth i ymwelwyr fynd trwyddynt i gyfeiriad clocwedd. Arweiniai ‘siambr Fawr’ at ‘siambr bresenoldeb’ ac, yn olaf, pe byddech mor ffodus, at ‘siambr gyfrin’.

Ond oherwydd difrod a achoswyd o ganlyniad i’r Rhyfel Cartref, stori gyfarwydd ar safleoedd canoloesol ledled Cymru, buan iawn y golygwyd na fu neb yn byw byth eto yn yr ystafelloedd brenhinol hyn.