Skip to main content

Arolwg

Edrychwch i’r nen i godi calon 

Pan oedd ar berchennog Castell Gwydir eisiau ei fan addoli ei hun, adeiladodd ei gapel preifat ei hun. Y perchennog dan sylw oedd Syr Richard Wynn, aelod o deulu dylanwadol Wynn a adeiladodd hefyd Blas Mawr yng Nghonwy, un o’r tai tref Elisabethaidd ceinaf ym Mhrydain.

Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi camargraff o’r tu mewn. Lle moethus ydyw sy’n cyfuno steiliau Gothig a Dadeni, gyda phulpud wedi’i addurno â ffigurau cerfiedig.

Ond pan syllwch am i fyny y datgelir gwir ogoniant Gwydir: nenfwd nefolaidd wedi’i beintio a’i addurno ag angylion, colomennod, cerubiaid a symbolau o’r haul, lleuad a sêr.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Er mwyn trefnu apwyntiad i fynd i mewn i'r capel ffoniwch Geidwad yr Allweddi ar: 01492 641687.

Dylech roi o leiaf 24 awr o rybudd cyn eich ymweliad.

Gallwch ymweld drwy gydol y flwyddyn ar wahân i 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr.


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Dim ysmygu icon Polisi dronau icon

Ceir mynediad ar draws tir gwastad o'r maes parcio i'r capel.

Mae parcio ar gyfer hyd at 6 char o fwen 50 metr i'r heneb.

Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Ni chaniateir ysmygu.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau


Cyfarwyddiadau

Ffordd
1/2m (0.8km) i’r De Orll. o Lanrwst, oddi ar y B5106.
Rheilffordd
Llanrwst 1/2m (0.8km).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.


Cysylltu â ni

E-bost
info@gwydircastle.co.uk

Perthynol