Beddrod Siambr Capel Garmon
Hysbysiad ymwelwyr
Os ydych chi'n bwriadu ymweld â Chapel Garmon, nodwch mai dim ond trwy hawl tramwy cyhoeddus (05/99) dros dir fferm y gellir mynd i'r heneb. Gallwch gael mynediad naill ai o'r Gogledd trwy'r ffordd sy'n arwain i'r de o bentref Bro Garmon neu o'r De gyda mynediad o'r A5. Mae parcio cyfyngedig ar gael. Cynghorir grwpiau o ymwelwyr i gysylltu â'r fferm gyfagos i wneud trefniadau parcio amgen cyn ymweld.
Mae Cadw wedi derbyn adroddiadau o gŵn ymosodol yn rhydd ar y tir a’r llwybr cyhoeddus sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at Beddrod Siambr Capel Garmon. Tra bod Cadw yn ymchwilio i’r mater hwn, rydym yn cynghori ymwelwyr i’r siambr claddu i fod yn hynod ofalus neu ohirio eu hymweliad hyd nes y clywir yn wahanol.
Siambr gladdu Neolithig mewn lleoliad diesboniad
Yn sgil ei safle yng ngogledd Cymru, mae’r siambr Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) hon sydd mewn cyflwr da yn dipyn o hynodrwydd. Mae beddrodau o’r math hwn yn perthyn i grŵp archaeolegol o’r enw ‘Cotswold-Hafren’ ar ôl yr ardal lle cânt eu canfod yn gyffredinol, felly mae safle anarferol Capel Garmon mor bell i’r gogledd yn ddirgelwch o hyd.
Mae 16 troedfedd / 5m o dramwyfa yn arwain at siambr gladdu driphlyg gyda maen capan mawr dros yr adran orllewinol. O gwmpas y strwythur mae cylch o gerrig sy’n nodi amlinelliad bron 100 troedfedd / 30m o dwmpath pridd a’i gorchuddiai’n wreiddiol.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am-4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Polisi dronau
Dim ysmygu
Iechyd a Diogelwch
Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Bydd yn agored i'r elfennau naturiol yn rheolaidd a gall fod yn llithrig neu'n fwdlyd o dan draed.
Rhaid i chi ystyried pa esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a'r math o heneb cyn eich ymweliad. Dim ond yn ystod yr oriau agor penodol y gallwch fynd yno, mae'r rhain wedi'u dewis ar gyfer eich diogelwch h.y. lefel briodol o olau.
Mae llawer o'n henebion mewn lleoliadau uchel, felly rhaid rhoi sylw hefyd i'r ardaloedd cyfagos, y cloddiau a’r ffosydd wrth ymweld.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.
Dylid defnyddio unrhyw ganllaw sydd yno i'ch helpu i ddringo a dod lawr y grisiau hanesyddol yn ddiogel, gan y gall y rhain fod yn anwastad ac o wahanol uchder.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Efallai y bydd mynediad yn cael ei rannu neu bod tir fferm cyfagos a allai gynnwys gwartheg pori neu anifeiliaid fferm.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Cyfarwyddiadau
Google MapCyf Grid: SH818543. Lled/Hyd: 53.0729, -3.7657
what3words - (Pwynt mynediad hawl tramwy cyhoeddus) : ///trysordy.crysau.blasodd
Dim maes parcio dynodedig.
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn