Gellir ei weld o'r tu allan.
Nid oes maes parcio pwrpasol ar gael – peidiwch â defnyddio’r maes parcio ger y ffermdy. Mae’r llwybr o’r ffermdy i’r castell yn eiddo preifat a does dim mynediad i’r castell ar y llwybr hwn.
Mae cilfan ar yr A470 gyda hawl tramwy cyhoeddus i’r heneb y gellir ei gweld o’r tu allan.
Mae Dolwyddelan mor Gymreig â mynyddoedd geirwon Eryri sy’n gefnlen drawiadol iddo.
A’r castell yn un o griw o gaerau a adeiladwyd i reoli’r bylchau mynydd, saif yn gofeb barhaol i’r Tywysog Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr. Ef oedd rheolwr diamau Gwynedd o 1201 i’w farwolaeth ym 1240.
Ond gorchfygwyd Dolwyddelan o’r diwedd yn ystod teyrnasiad ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd gan frenin Lloegr, Edward I. Roedd hwn yn gyfnod allweddol yn ei ymgyrch ddidostur i ddarostwng y Cymry unwaith ac am byth.
Gadawodd Edward ei ôl ar Ddolwyddelan o’r diwrnod y cwympodd ym 1283. Ar frys, rhoddwyd tiwnigau gwyn cuddliw i’r garsiwn – perffaith ar gyfer rhyfela gaeaf yn y mynyddoedd. Cododd uchder y gorthwr, adeiladodd dŵr newydd a gosododd beiriant gwarchae ynghyd â ‘pheli canon’ o gerrig.
Nid oes dim yn dragwyddol. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd Dolwyddelan yn adfail rhamantaidd yn boblogaidd ymhlith artistiaid tirwedd. Yna penderfynodd Arglwydd Willoughby de Eresby ‘adfer’ y gorthwr â bylchfuriau o’r math canoloesol.
Mae’r uniad i’w weld yn glir o hyd rhwng ei bensaernïaeth ffantasi a gwaith llaw go iawn Llywelyn Fawr isod.
Dolbadarn a Dolwyddelan Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Dydd Gwener, Sadwrn a Sul 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am–4pm*
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
*Gellir ei weld o'r tu allan.
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cŵn tywys yn unig yn y safle.
Parcio am ddim ar gael i ymwelwyr.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Cod post LL25 0JD
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.