Castell Dolbadarn
Arolwg
Castell Cymreig ac unig warcheidwad Bwlch Llanberis yn Eryri
Mewn llecyn unig, uchel uwchben dyfroedd Llyn Padarn, roedd Castell Dolbadarn, a godwyd gan frodorion, yn arfer bod yn gyswllt hanfodol yn amddiffynfeydd teyrnas hynafol Gwynedd. Fe’i hadeiladwyd, yn fwy na thebyg, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau’r 13eg ganrif, a byddai’n cadw llygad ar y llwybr strategol mewndirol o Gaernarfon i Ddyffryn Conwy uchaf.
Erbyn hyn, y tŵr crwn cadarn yw prif nodwedd y safle, sy’n wahanol iawn ei olwg i’r llechi heb forter a ddefnyddiwyd i godi llenfuriau’r castell. Yn sefyll 50 troedfedd/15.2m o uchder, mae’n ddigon tebygol bod dyluniad y tŵr wedi’i ysbrydoli gan ddyluniad caerau tebyg a adeiladwyd gan wrthwynebwyr Llywelyn yng ngororau Mers y de.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Cyfleusterau
Mae maes parcio cyhoeddus â thâl yr awdurdod lleol ar gael ar draws y ffordd i'r castell.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50