Cae'r Gors

Mae Cae'r Gors ar agor fel rhan o'n rhaglen teithiau tywys o fis Mai i fis Awst bob blwyddyn. Mae'r teithiau hyn yn gyfle unigryw i archwilio'r safle gyda gwybodaeth arbenigol am ei hanes a'i arwyddocâd. Ydych chi eisiau bod ymhlith y rhai cyntaf i gael gwybod am ddyddiadau newydd ar gyfer teithiau, a’r prisiau?
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a bydd diweddariadau’n dod yn syth i'ch mewnflwch
Cartref plentyndod arwres lenyddol a ffenestr arddangos i dirlun diwydiannol unigryw
Caiff Kate Roberts, y nofelydd a'r awdur straeon byrion, ei dathlu ledled Cymru fel ‘Brenhines ein Llên’.
Mae hi'n darlunio merched cadarn sy'n brwydro’n ystyfnig yn erbyn peryglon a thlodi yng nghymunedau chwareli gogledd-orllewin Cymru. Ac roedd hi'n gwybod am beth roedd hi'n ysgrifennu. Dyna oedd ei bywyd hithau hefyd.
Fe'i ganed yn 1891 a’i magu yng Nghae'r Gors, bwthyn a thyddyn chwarelwr cyffredin ar y llechweddau uwchlaw Dyffryn Nantlle ger Caernarfon. Y llecyn hwn luniodd ei dychymyg ac fe arhosodd gyda hi ymhell wedi iddi adael ei chartref yn 18 oed.
Ym 1965, pan ddarganfu fod Cae’r Gors yn adfail, ymgyrchodd yn ddiflino i'w achub. Yn 2007, roedd y lle wedi ei adfer o'r diwedd i’r hyn a fu adeg ei phlentyndod.
Nawr felly, gan ddechrau yn y ganolfan dreftadaeth y tu ôl i'r bwthyn, gallwch archwilio’i byd a cherdded drwy'r ystafelloedd bychain sy'n llawn lleisiau o'r gorffennol. Mae hyd yn oed ei llyfrau, ei chlocsiau a’i chlogyn yno i'ch atgoffa o'r cyfnod rhyfeddol hwn yn hanes diwydiannol Cymru.
Oriel
Expand image









Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | Agor ar y dyddiadau a ddewiswyd |
---|---|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Newid cewynnau
Maes parcio
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 1 – Hygyrch
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Cae'r Gors
Rhosgadfan, Caernarfon LL54 7EY
Rhif ffôn 01286 831715 / 831413
E-bost cadw@tfw.wales
Cod post LL54 7EY
what3words: ///plismyn.ffocysu.coluraf
Be sy'n digwydd
Pob digwyddiadFaint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn