Skip to main content

Arolwg

Blanced gysur Caernarfon

Peidiwch â diystyru muriau tref canoloesol Caernarfon. Heidio yma i weld y gaer fyd-enwog mae’r ymwelwyr, wrth reswm. Ond nid yw stori Caernarfon yn gyflawn heb gynnwys pennod ar ei chylch o furiau hynafol. Roedden nhw’n rhan hanfodol o gynllun Brenin Edward I i greu tref gaerog gyflawn i fewnfudwyr.

Mae’r cylch o furiau, sydd ag wyth tŵr a dau borth, bron yn gyflawn hyd heddiw. Roedd y muriau’n ymestyn am bron i hanner milltir, ac yn taflu blanced gysur o amgylch tref newydd Edward. Y Gât Ddwyreiniol oedd y brif fynedfa tua’r tir. Ac yn bartner iddi, ar ben arall y Stryd Fawr, mae’r Gât Orllewinol (neu’r Gât Ddŵr), y gellid ei chyrraedd o’r môr yn unig yn y 13eg ganrif. Gellir gweld rhai o rannau’r mur sydd yn y cyflwr gorau i’r gogledd o’r Gât Ddwyreiniol, ond er mwyn teimlo naws wreiddiol y dref ewch am dro ar hyd y cei neu ar hyd Stryd gysgodol Twll yn y Wal.


Amseroedd agor

Gellir ei gweld o'r tu allan.

Am resymau diogelwch, ni cheir mynediad i'r muriau ar hyn o bryd.


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
I’r Gog. o’r castell, Caernarfon
Rheilffordd
16km/10mllr Bangor, llwybr Crewe-Bangor/Caergybi.
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50