Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Clostir Cynhanesyddol Castell Bryngwyn

Safle cynhanes helaeth ei hanes  

Er nad oes ond un clawdd yn weddill o’r anheddiad Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) hwn, mae cloddiadau wedi datgelu safle a chanddo hanes penodol o faith. Tardda o loc cylchol yn cynnwys clawdd a ffos allanol a adeiladwyd tua diwedd yr oes Neolithig neu ddechrau’r Oes Efydd. Credwyd yn wreiddiol mai cofadail hengor defodol sydd yma, ond mae canfyddiadau crochenwaith, tyllau pyst a fflint ac offer efydd yn perthyn mewn gwirionedd i anheddiad. Rhaid bod y bobl leol wedi hoffi’r lle. Defnyddiwyd Castell Bryngwyn ymhell y tu hwnt i’r cyfnod Neolithig, gyda chanfyddiadau archeolegol yn awgrymu bod pobl yn byw yma mor hwyr â chanrif 1af yr oes Rufeinig. 

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1st Ebrill - 31st Mawrth 10am-4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Gwybodaeth i ymwelwyr

Anhawster cerdded icon

Anhawster cerdded

Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol

Polisi dronau icon

Polisi dronau

Dim ysmygu icon

Dim ysmygu

Iechyd a Diogelwch icon

Iechyd a Diogelwch

Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Bydd yn agored i'r elfennau naturiol yn rheolaidd a gall fod yn llithrig neu'n fwdlyd o dan draed.

Rhaid i chi ystyried pa esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a'r math o heneb cyn eich ymweliad. Dim ond yn ystod yr oriau agor penodol y gallwch fynd yno, mae'r rhain wedi'u dewis ar gyfer eich diogelwch h.y. lefel briodol o olau.

Mae llawer o'n henebion mewn lleoliadau uchel, felly rhaid rhoi sylw hefyd i'r ardaloedd cyfagos, y cloddiau a’r ffosydd wrth ymweld.

Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.

Dylid defnyddio unrhyw ganllaw sydd yno i'ch helpu i ddringo a dod lawr y grisiau hanesyddol yn ddiogel, gan y gall y rhain fod yn anwastad ac o wahanol uchder.

Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr. 

Gall dringo arwain at anaf difrifol. 

Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.

Efallai y bydd mynediad yn cael ei rannu neu bod tir fferm cyfagos a allai gynnwys gwartheg pori neu anifeiliaid fferm.

Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.

Iechyd a Diogelwch / Health and Safety

Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru

Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.

Wyneb llithrig neu anwastad icon

Wyneb llithrig neu anwastad

Cyfarwyddiadau

Google Map
Ffordd: 11/4m (2km) i’r Gor. o Frynsiencyn, oddi ar yr A4080.
Rheilffordd: Llanfair PG 6m (9.7km)
Beic: RBC Llwybr Rhif .8 (2.9km/1.8mllr).

Dim maes parcio dynodedig, mynediad i gerddwyr yn unig. 

Cyf Grid: SH465670. Lled/Hyd: 53.1784, -4.2979.

what3words: ///rheolwraig.credwch.agorwch

 

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn