Yn sefyll ar fryncyn a golygfeydd panoramig o Eryri y tu ôl iddo, tirnod trawiadol yw Bodowyr. Cynhelid y maen capan anferth, siâp madarchen yn wreiddiol gan bedwar maen hir, ac un ohonynt wedi cwympo ar ryw adeg dros yr ychydig filenia diwethaf. Credir bod pumed garreg fyrrach yn nodi’r hyn a arferai fod yn fynedfa i’r beddrod. Wedi’i orchuddio’n wreiddiol â phridd a’i adeiladu yn yr oes Neolithig (Oes Newydd y Cerrig), mae’n fwyaf tebygol o fod yn fedd cyntedd a ddefnyddid at gladdu cymunedol. Fodd bynnag, ni chloddiwyd y safle erioed felly dirgelwch o hyd yw pwy neu beth sydd wedi’i gladdu yma.
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | Ar agor drwy’r flwyddyn |
|---|---|
|
Ar agor drwy’r flwyddyn yng ngolau dydd |
|
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Polisi dronau
Dim ysmygu
Iechyd a Diogelwch
Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Bydd yn agored i'r elfennau naturiol yn rheolaidd a gall fod yn llithrig neu'n fwdlyd o dan draed.
Rhaid i chi ystyried pa esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a'r math o heneb cyn eich ymweliad. Dim ond yn ystod yr oriau agor penodol y gallwch fynd yno, mae'r rhain wedi'u dewis ar gyfer eich diogelwch h.y. lefel briodol o olau.
Mae llawer o'n henebion mewn lleoliadau uchel, felly rhaid rhoi sylw hefyd i'r ardaloedd cyfagos, y cloddiau a’r ffosydd wrth ymweld.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.
Dylid defnyddio unrhyw ganllaw sydd yno i'ch helpu i ddringo a dod lawr y grisiau hanesyddol yn ddiogel, gan y gall y rhain fod yn anwastad ac o wahanol uchder.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Efallai y bydd mynediad yn cael ei rannu neu bod tir fferm cyfagos a allai gynnwys gwartheg pori neu anifeiliaid fferm.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Cwymp sydyn
what3words: ///ffrind.cynhyrchiad.gwyrddach
Dim maes parcio dynodedig.
Cyf Grid: SH462682. Lled/Hyd: 53.1885, -4.3033
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol