Castell Caernarfon
Hysbysiad ymwelwyr
Yn sgîl pryderon ynglŷn â lledaeniad Coronafeirws a lles ein hymwelwyr, bydd Castell Caernarfon ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Mae hyn oherwydd effaith y rheoliadau newydd ynghyd â gwaith cadwraeth parhaus.
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl, porwch drwy ein tudalen Darganfod Lleoedd i Ymweld â Nhw er mwyn dod o hyd i lawer o safleoedd hanesyddol Cadw ledled Cymru.
Arolwg
Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd
Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.
Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.
Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru. Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.
Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.
Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.
Prisiau a Thocynnau
Cyfleusterau
Cŵn tywys yn unig
Mae nifer o feysydd parcio yn nhref Caernarfon ac o’i chwmpas, gan gynnwys maes parcio cyhoeddus arhosiad hir ar lannau’r afon, ger y castell.
Ceir mynediad i'r castell i fyny dwy res o risiau, neu ramp a adeiladwyd at y diben, sy'n galluogi mynediad o ochr y palmant i lefel y stryd i'r brif fynedfa. Ceir mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn ar draws y lefel isaf.
Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol yn y castell. Mae mynediad iddi’n rhan o bris mynediad y castell.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Mae amgueddfa ar y safle.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Darganfyddwch ein gweithgareddau addysgol am ddim.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Cyfarwyddiadau
Cod post LL55 2AY
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 01286 677617
E-bost
CaernarfonCastle@llyw.cymru
Castle Ditch, Caernarfon LL55 2AY