Croeso i’n tudalen fynediad sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:
Ebost: CaernarfonCastle@llyw.cymru Ffôn: 03000 252239
Does dim maes parcio pwrpasol gan y castell, ond mae dau faes parcio cyhoeddus cyflogedig gerllaw ac eraill ledled y dref. Mae llefydd hygyrch ym mhob maes parcio: Golwg mapiau Google
If parking in the quayside carpark, the journey to the castle includes navigating a steep incline to reach the King’s Gate entrance.
Tan Hydref 2022 mae mynediad at y ganolfan ymwelwyr i fyny 25 o risiau ac mae 25 o risiau eraill i'r heneb. Rydym yn gwneud gwaith i warchod y castell a gwella profiad yr ymwelydd ar hyn o bryd (gan gynnwys lifft newydd i lefelau uchaf y castell).
Yn anffodus, rhwng nawr a hydref 2022 ni fydd toiledau hygyrch yng Nghastell Caernarfon.
Mae modd mynd i'r toiledau i ymwelwyr drwy res o risiau cul. Does dim cyfleusterau newid babanod. Mae toiledau cyhoeddus yn cynnwys toiledau hygyrch y tu allan i'r castell ar Fryn y Castell (angen allwedd radar) a chyfleusterau newid babanod hefyd
Mae'r tiroedd yn cynnwys ardal laswelltog wedi'i chropio a llwybrau sy'n arwain at wahanol ardaloedd o fewn y castell.
Mae gan Gastell Caernarfon nifer o dyrau tal a phorthfeydd, ac, o ganlyniad, llawer o risiau. Gellir mwynhau'r castell ar lefel y ddaear, ond mae mynediad i lawer o'r safle drwy risiau troellog serth, cul, gyda rhai ohonynt yn anwastad, gan gynnwys llwybrau’r waliau a rhai ystafelloedd mewnol. Drwy'r castell mae grisiau trothwy wrth ddrysau a drysau isel
O hydref 2022, bydd rhan o lefel y llwybr wal uchaf rhwng y Granar a'r Tŵr Ffynnon a llwybr gwylio newydd y castell yn hygyrch i bawb wrth i ni gwblhau ein prosiect i osod lifft yn nhŵr porth y Brenin. (byddwch yn ymwybodol bod terfyn lled yn berthnasol i gael mynediad i'r ardal lifft ar lefel y ddaear)
Taith sain Caffi Diffibriliwr Powlen i gŵn Canllawiau print bras Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri Cyfleusterau picnic Dolenni sain cludadwy Gorsaf ail-lenwi dŵr |
Mae tywysydd sain ar gael i’w brynu wrth gyrraedd y ganolfan ymwelwyr. |