Skip to main content

Mae prosiect uchelgeisiol Cadw wedi trawsnewid profiad yr ymwelydd yng Nghastell Caernarfon.

Mae Porth y Brenin wedi elwa o fuddsoddiad gwerth £5 miliwn i osod dec ar y to, lloriau yn ei dyrau, a lifft i ganiatáu i ymwelwyr gyrraedd rhannau o’r porth sydd heb fod yn agored i’r cyhoedd ers canrifoedd.

Dilynwch ein llinell amser o ddatblygiadau, o sicrhau’r caniatâd cynllunio yn 2022 i ailagor Porth y Brenin ym mis Ebrill 2023.

Ymweld â Castell Caernarfon

Logo ERDF / ERDF Logo

Gorffennaf 2023

Prosiect Castell Caernarfon – fideo treigl amser

Profwch raddfa’r gwaith o ailddatblygu Porth y Brenin drwy ein lluniau o’r prosiect.

Ebrill 2023

NAWR AR AGOR: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd — diolch i fuddsoddiad gwerth £5m

Ar ôl tair blynedd o waith, mae’r prosiect gwella i brif borthdy’r Castell wedi’i gwblhau.

Newyddion

22 Gorffennaf 2022

Facebook

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y gwaith ar Borth y Brenin yn gwella hygyrchedd y safle gan alluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn i gyrraedd pen tŵr Porth y Brenin mewn lifft gwydr.

Ymweld â Castell Caernarfon

5 Tachwedd 2021

Facebook

Yr wythnos ddiwethaf, ymgasglodd cynrychiolwyr o Cadw a thîm y prosiect ar gyfer seremoni arbennig yn Castell Caernarfon i ddathlu bod y prosiect wedi cyrraedd y pwynt uchaf yn y gwaith adeiladu.

24 Medi 2021

Ffrâm ddur enfawr yn cael ei gosod dros y murfylchau

Gorffennaf 2021

190 tunnell o sgaffaldiau wedi’u codi o amgylch mynedfa Porth y Brenin

Chwefror 2021

Datgelu cliwiau hanesyddol yn ystod gwaith cloddio archeolegol

Mae ymchwiliad archeolegol mwyaf erioed Castell Caernarfon wedi datgelu cliwiau a fydd yn newid ac yn gwella ein dealltwriaeth o hanes cynnar y safle, medd arbenigwyr.

Darganfyddwch sut y gwnaed y darganfyddiadau hyn