Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Castell Caernarfon
Wedi ei gyhoeddi

Bydd Caernarfon yn lle prysur i Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, dros yr ychydig fisoedd a blynyddoedd nesaf. Fel rhan o’i gynlluniau uchelgeisiol i wella’r profiad i ymwelwyr ym Mhorth y Brenin a Phorth Mawr yng Nghastell Caernarfon, mae gwaith paratoi a chadwraeth ar fin dechrau ar y safle Treftadaeth y Byd hwn.

Bydd pecyn o dros £5 miliwn, sy’n cynnwys £1 miliwn o gyllid gan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru a ariennir drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), yn golygu y bydd mynediad o’r radd flaenaf i’r gofeb a gwelliannau allweddol eraill i ymwelwyr a fydd yn cyd-fynd ymhellach â’r rhaglen adfywio gyffrous yn y dref, gan helpu i ddenu manteision cymdeithasol ac economaidd hirdymor.

Bydd cynigion Porth y Brenin yn cynnwys:

  • y mynediad gwastad cyntaf erioed mewn unrhyw safle Treftadaeth y Byd tebyg yn y DU drwy lifft gwydrog ysgafn i’r murlfychau uwch
  • datblygu profiadau dychmygus, rhyngweithiol y gellir ymgolli ynddynt
  • gofod unigryw ar gyfer lluniaeth ysgafn a byrbrydau yn y tŵr
  • gwaith cadwraeth sylweddol i’r porth
  • gofod ar gyfer digwyddiadau ac addysg
  • cyfleusterau toiled hygyrch
  • gofod manwerthu gwell a mwy o faint yn ardal Tŵr Porth y Brenin

Bydd mynediad lifft a grisiau newydd hefyd ym Mhorth Mawr i furiau’r dref, dwy fflat foethus newydd a gwaith cadwraeth sylweddol i’r fynedfa allweddol hon i’r dref â mur o’i chwmpas.

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth;

Dw i wrth fy modd bod y pecynnau cadwraeth a pharatoi pwysig hyn yn digwydd yng Nghaernarfon – gan ddechrau’r daith bwysig i drawsnewid a gwella ein cynnig o’r radd flaenaf. Bydd y ddau ddatblygiad hyn wirioneddol yn chwalu rhwystrau, gan wneud ein safleoedd yn fwy hygyrch, yn fwy perthnasol ac yn fwy pleserus. Mae’n rhaid i ni barhau â’r gwaith o gynyddu mynediad i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd”.

Bydd y pecyn galluogi 19 wythnos hwn yn y Castell yn cynnwys gwaith archwilio archeolegol pwysig er mwyn paratoi ar gyfer y prif becyn gwaith y flwyddyn nesaf. Bydd y castell ar agor fel arfer yn ystod y gwaith paratoi a chadwraeth gydag ymwelwyr yn cael eu hannog i alw heibio i weld y gwaith sy’n cael ei wneud ar y prosiect cyffrous hwn.

Bydd y gwaith ym Mhorth Mawr yn adeiladu ar y pecyn cychwynnol a gafodd ei gwblhau sawl mis yn ôl i sicrhau amodau priodol ac addas ar gyfer gwaith cadwraeth hanfodol ar gyfer y gofeb.       

Tocynnau i Castell Caernarfon ar gael yma. 

Logo Cadw / Cadw logo
Treftadaeth y byd / World heritage site
Logo ERDF / ERDF Logo