Skip to main content
Castell Caernarfon
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygiad arloesol Porth y Brenin yng  Nghastell Caernarfon — gan nodi pennod newydd yn hanes cyfoethog y safle canoloesol.

Disgwylir i'r prosiect £4 miliwn fod yn un o brosiectau mwyaf a mwyaf cymhleth Cadw hyd yma, gyda phopeth wedi'i gynllunio o waith cadwraeth hanfodol a gwelliannau o ran hygyrchedd, i gyflwyno mannau dehongli newydd trochol i wella profiadau ymwelwyr.

Mae cymeradwyo’r cynlluniau yn cyd-fynd â phenodi prif gontractwr ar gyfer y prosiect, sef Grosvenor Construction o Rhyl, a ddewiswyd yn dilyn proses dendro agored gystadleuol.

O 30 Tachwedd 2020, bydd y tîm yn Grosvenor Construction - dan oruchwyliaeth tîm cadwraeth arbenigol Cadw - yn dechrau codi 190 tunnell o sgaffaldiau i gael mynediad i ben tyrau Porth y Brenin sy’n 25m o uchder.

Gyda’r gwaith adnewyddu i fod i gael ei gwblhau yn gynnar yn 2022, am y tro cyntaf ers mwy na chanrif, nid y porth yma fydd yn croesawu ymwelwyr; yn hytrach, bydd prif fynedfa dros dro trwy Borth y Dŵr hanesyddol sydd wrth droed Tŵr yr Eryr.

Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd Porth y Brenin yn cynnwys dec gwylio newydd ar lefel uchaf y porthdy, a man arlwyo parhaol — gyda Cadw’n bwriadu rhoi’r lle ar y farchnad yn 2021, gan gynnig cyfle i fusnesau lleol redeg y caffi ar dir y castell. Hefyd, bydd y gwaith datblygu yn gweld cyfleusterau toiled hygyrch a siop anrhegion, yn ogystal â chyfleuster dehongli hanesyddol newydd sbon i ymwelwyr ei fwynhau.  Yn y cyfamser, bydd gwaith cadwraeth pwysig ar y tyrau cyfagos yn helpu i amddiffyn y strwythur canoloesol am genedlaethau i ddod. 

Dywedodd Will Mellor, Cyfarwyddwr Grosvenor Construction:

“Mae’n anrhydedd i ni dderbyn y contract ar gyfer ailddatblygu Porth y Brenin. Gan ddefnyddio ein harbenigedd helaeth ym maes gwarchod henebion, edrychwn ymlaen at ddod â'r cynlluniau'n fyw a chwarae rhan werthfawr yn 700 mlynedd o hanes y castell.”

Ychwanegodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn yn fawr, sy’n nodi pennod newydd gadarnhaol i Gastell Caernarfon a’i ymwelwyr.

“Mae gwneud gorffennol Cymru yn fwy hygyrch i bobl o bob cefndir yn hanfodol, a thrwy dechnoleg arloesol, gallwn ddatgloi rhannau o'n safleoedd hanesyddol sydd heb eu harchwilio eto wrth ymchwilio'n ddyfnach i'w hanesion.

“Hoffwn ddiolch i aelodau ac ymwelwyr Cadw am eu cefnogaeth barhaus, sydd wedi ein helpu i ofalu am ein hadeiladau hanesyddol gwerthfawr yn ystod yr amser anodd hwn.”

I gael mwy o wybodaeth am brosiect Porth y Brenin Castell Caernarfon, ewch i, chwiliwch am Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwWales neu @CadwCymru ar Twitter.