Y cloddiad mwyaf erioed yng Nghastell Caernarfon yn cynnig cliwiau newydd am hanes y safle
Mae ymchwiliad archeolegol mwyaf erioed Castell Caernarfon wedi datgelu cliwiau a fydd yn newid ac yn gwella ein dealltwriaeth o hanes cynnar y safle, medd arbenigwyr.
Wedi’i ddatgelu gan Cadw heddiw (3 Chwefror), mae’r newyddion yn dynodi diwedd y cloddiad archeolegol arloesol — a ddechreuodd ym mis Ionawr 2019.
Yn ystod y cloddiad, datgelodd tîm o archeolegwyr o Brifysgol Salford dystiolaeth am hanes cynnar y Castell a oedd yn anhysbys o’r blaen. Datgelodd y cloddiad ddarnau o grochenwaith Rhufeinig o’r ganrif gyntaf, ynghyd â theil ac asgwrn anifeiliaid.
Darganfuwyd tystiolaeth bod y safle wedi’i ddefnyddio ychydig cyn i Edward I adeiladu’r castell presennol yn 1283, gan gefnogi’r awgrym y bu amddiffynfa mwnt a beili yno’n gynharach.
O fis Mawrth 2021, bydd asesiadau ôl-gloddio ym Mhrifysgol Salford yn archwilio’r data i benderfynu sut y bydd y darganfyddiadau’n cyfoethogi — neu hyd yn oed newid — yr hyn sy’n hysbys am fywyd ar dir y castell.
Dywedodd Ian Miller, Cyfarwyddwr Salford Archaeology ym Mhrifysgol Salford:
“Bydd y cloddiad a’r arolwg yng Nghastell Caernarfon — un o’r safleoedd treftadaeth pwysicaf yn y DU — yn cael effaith fawr ar y ffordd rydym yn deall hanes a datblygiad y safle eiconig hwn.
“Gan weithio’n agos â thimau archaeoleg a chadwraeth Cadw, rydym wedi dod o hyd i dystiolaeth gyffrous am sefydlwyr Rhufeinig sy’n dyddio’n ôl cyn belled â’r ganrif gyntaf, gan awgrymu y bu gan safle Castell Caernarfon arwyddocâd strategol mawr ymhell cyn i gastell gael ei adeiladu yno yn 1283.
"Yn fwy na hynny, mae'r prosiect unwaith mewn oes hwn wedi arwain at rai cliwiau arwyddocaol iawn o ran y defnydd o’r safle yn union cyn adeiladu'r castell, a mewnwelediad i'r ffordd y datblygodd yr adeilad anhygoel hwn ar ddiwedd y 13eg a'r 14eg ganrif.
“Ymarfer casglu data yw cloddio yn ei hanfod, a’n tasg nesaf fydd dadansoddi’r holl gofnodion rydym wedi’u creu ac archwilio’n fanwl yr holl arteffactau a ddarganfuwyd. Rydym yn hyderus, unwaith y bydd y gwaith dadansoddi wedi’i gwblhau, y byddwn yn cael llawer mwy o ddealltwriaeth o ddatblygiad hanesyddol y safle. Efallai na fyddwn yn ailysgrifennu hanes Castell Caernarfon, ond byddwn yn sicr yn ei wella.”
Mae archeolegwyr hefyd yn cwestiynu a allai sylfeini cerrig sydd newydd eu darganfod arwain at ailddehongli’r marciau a nodir ar hyn o bryd yn Ward Isaf y castell, sy’n nodi lle byddai’r adeiladau gwreiddiol wedi sefyll yn ystod y 13eg neu 14eg ganrif. Dros y misoedd nesaf, bydd dadansoddiad archeolegol o’r canfyddiadau yn helpu i gadarnhau hyn, gan roi darlun cliriach o linell amser hanesyddol y safle.
Ar ôl ei gwblhau, mae disgwyl i’r ymchwiliad gynnig digon o dystiolaeth i Cadw a Salford Archaeology ychwanegu pennod newydd at stori Gwynedd ac un o gestyll mwyaf poblogaidd Cymru, Caernarfon.
Y newyddion archeolegol hwn yw’r diweddaraf mewn llinell hir o gyhoeddiadau cyffrous ar gyfer Castell Caernarfon — a dderbyniodd gymeradwyaeth gynllunio yn ddiweddar ar gyfer rhaglen ailddatblygu a chadwraeth gwerth £4 miliwn. Mae disgwyl i hwn gael ei gwblhau yn 2022.
Dywedodd Ian Halfpenney, Arolygydd Henebion Cadw:
“Mae’n anghyffredin iawn gweld cloddiad ar y raddfa hon o fewn Safle Treftadaeth y Byd, ac mae’n sicr y bydd y canlyniadau’n taflu goleuni pellach ar y defnydd o safle’r castell a’i ddatblygiad.
“Mae maint y gwaith yng Nghastell Caernarfon wedi rhoi cyfle digynsail i ymgymryd â chloddiad mawr o fewn y Ward Isaf, ac i greu record ddigidol gynhwysfawr drwy sganio laser 3D o’r ardal gyfan. Bydd y model laser hwn nid yn unig yn helpu ein dealltwriaeth o hanes y castell, ond bydd hefyd yn llywio’r gwaith cadwraeth dilynol ac yn darparu cofnod digidol parhaol o Borth y Brenin — er mwyn i’r cyhoedd ei fwynhau.
“Gobeithiwn y bydd y datguddiad hwn yn dod â hyd yn oed mwy o ymwelwyr i’r safle cyn gynted ag y gall ailagor yn ddiogel, ac mae’n amlygu’r ffaith nad yw hanes Cymru byth yn sefyll yn llonydd.”
Ychwanegodd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:
"Mae'r ymchwil arloesol hwn yn ychwanegu dyfnder pellach o ddiddordeb i safle Castell Caernarfon, gan ddangos y gwaith hanfodol y mae Cadw yn ei wneud nid yn unig i ddiogelu safleoedd hanesyddol yng Nghymru, ond hefyd i wella’r ddealltwriaeth ohonynt.
"Hoffwn ddiolch i aelodau Cadw a'n hymwelwyr ffyddlon am eu cefnogaeth barhaus i hanes Cymru a chadwraeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gobeithio, fel fi, y byddwch yn edrych ymlaen at glywed mwy am y datblygiad cyffrous hwn, a darganfod sut mae'n effeithio ar yr hyn yr oeddem yn meddwl ein bod yn ei wybod am Gastell Caernarfon."