Skip to main content
Castell Caernarfon
Wedi ei gyhoeddi

Ar ôl tair blynedd o waith, mae’r prosiect gwella i brif borthdy’r Castell wedi’i gwblhau.

Heddiw, cyhoeddodd Cadw fod prosiect cadwraeth a datblygu 3 blynedd o hyd ym Mhrif Borthdy Castell Caernarfon wedi’i gwblhau — gan roi mynediad i rannau o’r castell nas gwelwyd yn agos ers canrifoedd.

Mae’r buddsoddiad mawr hwn, gwerth £5m, yn cynnwys gosod dec ar y to a lloriau newydd yn nhyrau’r porthdy. Mae lifft wedi’i osod hefyd sy’n caniatáu mynediad i bawb i’r lefelau uchaf — y tro cyntaf, yn ein tyb ni, ar gyfer unrhyw safle Treftadaeth y Byd tebyg yn y DU. Bydd y prosiect yn sicrhau bod y castell yn groesawgar ac yn hygyrch ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r ardal leol.

Castell Caernarfon

Mae cynnig arlwyo newydd, mannau addysgol a manwerthu, a chyfleusterau hygyrch i ymwelwyr hefyd wedi’u cynnwys yn y gwaith, gan gynnwys cyfleuster Llefydd Newid. Cefnogir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a gan £1.04 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth, a reolir gan Croeso Cymru. 

Yn ganolog i’r prosiect gwella mae dehongliad artistig newydd, sy’n canolbwyntio ar y thema: ‘y dwylo a adeiladodd y Castell’. Nod y dull modern hwn o ddehongli yw cyflwyno stori’r Castell o safbwynt gwahanol, gan annog ymwelwyr i ailfeddwl sut maen nhw’n gweld hanes y safle. Cefnogwyd y gwaith o gyflwyno’r prosiect gan Buttress Architects a Grosvenor Construction, a ailosododd lefelau llawr tyrau’r porthdy, yn ogystal ag adeiladu stepiau newydd o’r llawr cyntaf i’r dec ar y to, a gosod gwydr ysgafn clir i ddarparu mynediad heb stepiau i’r to.

Castell Caernarfon

Yn dilyn datblygiad mor helaeth, mae Cadw bellach yn annog ymwelwyr o bob oed a gallu i ddod i weld y golygfeydd eithriadol o’r murfylchau uchaf ar ddec y to nas gwelwyd o’r blaen ers canrifoedd.

Castell Caernarfon

Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae gwneud ein safleoedd hanesyddol yn fwy hygyrch yn ffordd wych — ac angenrheidiol — o ofalu am henebion hanesyddol Cymru er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Mae prosiectau gwella fel yr un yma yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at hanes Cymru a dysgu mwy am dreftadaeth y genedl. Bydd dehongliad newydd Cadw yn cefnogi hyn ymhellach, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod straeon llai adnabyddus o hanes y Castell.

“Dyma'r datblygiad diweddaraf yng Nghaernarfon ac y mae’r dref hefyd wedi elwa o raglen ddatblygu helaeth a pharhaus i wella ei statws ymhellach fel cyrchfan eiconig yng Nghymru."

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

“Hoffem ddiolch i’n hymwelwyr ac aelodau gwerthfawr Cadw am eu hamynedd yn ystod y tair blynedd o waith cadwraeth a datblygu yng Nghastell Caernarfon. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob gallu i brofi’r rhan hon o’r castell am y tro cyntaf ers canrifoedd, a gobeithiwn y bydd ein dehongliad newydd yn cynnig ffyrdd newydd i ymwelwyr ddeall stori’r Castell.

“Bydd dehongliad y dwylo a adeiladodd y Castell yn annog ymwelwyr i wneud yr union beth hwnnw — gan ganolbwyntio ar y gymuned a’r gweithwyr a fu’n byw yn y Castell. Mae eu straeon nhw yn aml yn droednodiadau yn hytrach na phrif ganolbwynt dehongliad hanesyddol.

Bydd y dehongliad newydd hwn yn dangos y sgil a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i adeiladu’r castell sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae hefyd yn cynnig cyd-destun a fydd yn rhoi dealltwriaeth lawnach o’r gwrthdaro dwys a fu rhwng y tywysogion Cymreig brodorol a brenhinoedd Lloegr.”

Am fwy o wybodaeth ac i archebu ymweliad â Chastell Caernarfon, ewch i https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-caernarfon?

Logo ERDF / ERDF Logo