Skip to main content

Paratoi yw'r allwedd... ac mae hynny'n wir wrth i Cadw fynd ati gydag un o'i brosiectau mwyaf a mwyaf cymhleth yng Nghastell Caernarfon. Pennaet Cadwraeth Cadw, Chris Wilson, sy'n egluro pam.

Wedi blynyddoedd o gynllunio, mae’r gwaith ar fin dechrau ar gynllun uchelgeisiol Cadw i drawsnewid y brif fynedfa i Gastell Caernarfon — Porth y Brenin — a’i droi’n ganolfan ymwelwyr hawdd ei defnyddio. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod lifft i fynd ag ymwelwyr i ‘lawr’ uchaf newydd ar y to, a fydyn goron ar ran ucha’r porth.

Yn y cyfamser, ac am y tro cyntaf ers mwy na chanrif, nid y porth yma fydd yn croesawu ymwelwyr; yn hytrach, bydd pobl yn mynd i mewn i’r castell trwy Borth y Dwˆ r sydd wrth droed Twˆ r yr Eryr, ble bydd swyddfa docynnau a siop pwrpasol.


Yn ogystal, bydd rhaid symud yr holl wasanaethau sydd ar hyn o bryd ym Mhorthdy’r Brenin – gan gynnwys ein ceidwaid, a fydd yn symud i ‘pod’ symudol, cyfoes, yn ward isa’r castell. Wrth ei ochr, bydd ail ‘pod’ gyda chaffi bychan a siop i ymwelwyr.


Mae modd datgymalu a symud y podiau — a gynlluniwyd gan ein penseiri — i mewn ac allan o’r castell a bydd modd eu defnyddio yn henebion eraill Cadw yn y dyfodol. Y disgwyl yw y bydd symud yr adnoddau hyn yn gymryd rhai wythnosau, gan ddechrau ym mis Tachwedd.

Ar yr un pryd, byddwn yn cynnal gwaith cloddio archeolegol o fewn y castell i baratoi ar gyfer llwybrau carthffosiaeth ar gyfer toiledau anabl newydd yn seler Porthdy’r Brenin.


Mae peth gwaith cloddio cychwynnol wedi bod eisoes gan gynyddu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o hanes y castell. Rydym bellach yn gwybod ble’r oedd lefelau’r lloriau a ble mae gweddillion archeolegol eraill dan y ddaear. O fewn prif dyrau’r porthdy, rydym wedi dysgu mwy am eu hadeiladwaith a’u defnydd ac wedi dod o hyd i’r graig y mae’r castell arni. Bydd yr wybodaeth yma’n help wrth gynllunio’r adnoddau ymwelwyr newydd. Daethpwyd o hyd hefyd i arwynebedd rhai lloriau hanesyddol a bydd y rhain yn cael eu cadw.


Bydd y castell yn agored drwy’r holl gyfnod hwn a bydd teithiau tywys ar gael. 

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn