Skip to main content
Castell Caernarfon
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn chwilio am gwmni lleol i sefydlu, rhedeg a rheoli cyfleuster arlwyo newydd sbon ar diroedd hyfryd Castell Caernarfon.

Bydd y cyfle yn dechrau gyda chiosg dros dro ar y Safle Treftadaeth y Byd UNESCO enwog, cyn ychwanegu cynnig parhaol o fewn Caffi Castell, Porth y Brenin, a adnewyddir maes o law.

Cyhoeddodd Cadw yr hysbyseb ‘mynegi diddordeb’ am y cyfle ym mis Chwefror, ac mae bellach yn annog darpar ymgeiswyr i gofrestru erbyn 10 Mawrth, ar gyfer diwrnod agored i ymweld â’r ciosg. Cynhelir y diwrnod ymweld o bellter cymdeithasol ar 31 Mawrth, gan ganiatáu i gwmnïau sydd â diddordeb i fynd ar daith o amgylch y safle hanesyddol a’r safle dros dro cyn cyflwyno cais.

Mae Cadw yn gobeithio penodi cwmni lleol, annibynnol erbyn mis Mai 2021, gyda’r ciosg dros dro i agor ei ddrysau ddechrau mis Mehefin, yn ddibynnol ar gyfyngiadau’r coronafeirws.

Pe bai'r berthynas rhwng Cadw a'r cwmni a ddewisir yn profi'n llwyddiannus, bydd y cyfle arlwyo yn ehangu i'r dyfodol – gyda'r gweithredwr yn cael cyfle i redeg a rheoli'r ciosg dros dro a'r Caffi Castell newydd o haf 2022.

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym mis Tachwedd y llynedd, a’r gobaith yw y bydd y datblygiad yn gymorth i ddenu mwy o ymwelwyr i Gastell Caernarfon a chanol y dref, gan gefnogi cwmni lleol i ehangu ei orwelion: fel y profwyd yng nghaffi Castell Harlech yn ddiweddar.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: 

“Edrychwn ymlaen at glywed gan gwmnïau lleol ledled Caernarfon a chymuned ehangach Gwynedd, ac hyderwn y bydd y gweithredwr a ddewisir yn cyflwyno syniadau cyffrous a chynnig arlwy amrywiol i wella profiad cyffredinol yr ymwelydd â’r Castell. Mae'n gyfle gwych i gwmni lleol wrth i Gaernarfon groesawu hyd at 200,000 o ymwelwyr mewn blwyddyn arferol.

“Gobeithiwn feithrin perthynas waith hirdymor gyda’r gweithredwr penodedig, fel ein bod ni’n eu cefnogi nhw i ehangu eu cwmni o fewn muriau’r Castell gan hefyd sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael profiad o’r safon uchaf yng Nghastell Caernarfon.”

Mae Caffi Castell yn rhan o brosiect datblygu ehangach gwerth £4m o fewn prif dwr mynedfa’r Castell, a elwir Porth y Brenin.

Bydd Porth y Brenin ar ei newydd wedd hefyd yn cynnwys gwell mynediad i ymwelwyr, arddangosfeydd dehongli newydd am hanes y Castell, man addysg ac achlysur, a lifft gwydr i’r murfylchau uchaf, a fydd yn agor allan i ddec gwylio newydd o’r radd flaenaf. 

Yn y cyfamser, bydd gwaith cadwraeth/cynnal a chadw pwysig ar y tyrau cyfagos yn gymorth i warchod yr adeiladwaith canoloesol am genedlaethau i ddod.

Logo ERDF / ERDF Logo