Skip to main content

Yn ystod y 19eg ganrif trawsnewidiwyd cryn dipyn o dirwedd Cymru gan ddiwydiant. Yng nghymoedd De Cymru –y diwydiant glo. Yma, yn y gogledd – llechi.

Ar y cychwyn, grwpiau bychain o ddynion oedd yn cloddio’r llechi. Ond yna symudodd tirfeddianwyr ac entrepreneuriaid mawr i mewn, gan gymryd y chwareli drosodd a rheoli'r farchnad. Roedd y diwydiant ar ei anterth yn 1889, ddwy flynedd cyn geni Kate Roberts.

Erbyn hynny roedd chwareli Gwynedd yn cyflogi 14,000 o ddynion a’u llechi wedi toi'r byd. Roedd y cloddio yn creu tirwedd anhygoel o domenni gwastraff enfawr, aneddiadau gwasgaredig ar yr ucheldir a rhwydwaith o reilffyrdd i gludo’r llechi i'r môr.

Mae mor unigryw fel bod Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru wedi sicrhau statws Safle Treftadaeth y Byd. Mae cartref plentyndod Kate Roberts, Cae'r Gors, yn bennod hanfodol yn y stori.