Castell Conwy — Canllaw Mynediad
Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:
Ebost: ConwyCastle@llyw.cymru Ffôn: 03000 252239
Does dim gan Gastell Conwy faes parcio, ond mae maes parcio â thâl y cyngor gyda mannau hygyrch wrth ymyl mynedfa'r castell. Mae sawl maes parcio canolig a mawr â thâl yn y dref ac ar y cyrion. Gellir cyrraedd y dref ar y trên hefyd, gyda'r orsaf ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd o fynedfa'r castell: Golwg mapiau Google
Mae'r daith o'r maes parcio i'r ganolfan ymwelwyr yn wastad ac yn balmantog. Mae gan y ganolfan ymwelwyr ddrysau llydan, awtomatig.
Mae digon o le yng nghanolfan ymwelwyr Castell Conwy yn eang, ac mae desgiau mynediad isel a drysau awtomatig.
Mae'r daith o'r ganolfan ymwelwyr i'r castell ar hyd llwybr serth o tua 50 metr ac yn cynnwys grisiau mewn gwahanol leoliadau.
Mae gan Gastell Conwy gyfres o doiledau ar y lefel isaf, gyda mynediad drwy res o risiau. Mae toiled hygyrch ar y llawr gwaelod a chyfleusterau newid babanod hefyd. Mae cyfleusterau newid babanod ar gael ar y lefel is.
Mae'r tiroedd wedi’u gosod yn laswellt gyda llwybrau gwastad, coblog sy'n arwain at wahanol ardaloedd o fewn y castell. Mae mynediad i ardal y neuadd fawr a'r barbican dwyreiniol drwy resi byr o risiau.
Mae gan Gastell Conwy wyth tŵr tal a phedwar tŵr arall, ac, o ganlyniad, llawer o risiau. Gellir mwynhau'r castell ar lefel y ddaear, ond mae mynediad i lawer o'r safle drwy risiau serth, cul, gyda rhai ohonynt yn anwastad, gan gynnwys y llwybrau wal a rhai ystafelloedd mewnol e.e. y capel.
Taith sain Caffi Diffibriliwr Powlen i gŵn Canllawiau print bras Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri Cyfleusterau picnic Dolenni sain cludadwy Gorsaf ail-lenwi dŵr |
Nac oes Nac oes Oes Dŵr ar gael ar gais Nac oes Nac oes Nac oes Oes Oes Oes |