Diwrnodau Cellweiriwr Conwy
Ymunwch â Jay Gatling, dewin Conwy ei hun, yng Nghastell Conwy bob dydd Mercher yn ystod gwyliau haf yr ysgol am hwyl hudolus i'r teulu canoloesol. Mae wastad tric neu ddau yn barod ganddo i’ch rhyfeddu. Peidiwch â cholli’r sioe hon
Yn ymuno ag Jay eleni, bydd y bardd ei hun, Cyfarwydd Cymru, Storïwr Cymru a fydd yn eich difyrru â hanesion hynafol dreigiau, tylwyth teg a chreaduriaid hudolus Cymru sydd bellach wedi’u hen anghofio.
Mae ein gweithdy hudlath hefyd o fewn y castell. Yma gall tywysogion, tywysogesau, marchogion, a dewiniaid ifanc greu eu hudlath eu hunain i fynd adref gyda nhw.
Y tu allan fe welwch ein gweithdy sgiliau cellweiriwr lle gallwch roi cynnig ar jyglo, troelli platiau, hwla hwpio, cerdded ar stilts, a llawer mwy. Ac ar gyfer y bobl ifanc hynny sy'n dymuno hyfforddi i amddiffyn y castell, gallwch roi cynnig ar ein maes saethyddiaeth sy'n addas i blant.
Nid yw'r haf yng Nghastell Conwy erioed wedi bod cystal.
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Mer 22 Gor 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 29 Gor 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 05 Awst 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 12 Awst 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 19 Awst 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£13.50
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£43.30
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£29.80
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£9.40
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£12.10
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
|