Dosbarth En Plein Air
Cyfle unigryw i beintwyr tirluniau baentio safle diwydiannol hanesyddol Gwaith Haearn Blaenafon, gyda'r artist adnabyddus o Dde Cymru, Howard Jones.
Mae bythynnod y gweithwyr o’r 19eg ganrif, y tŷ cast a’r ffowndri, a’r tŵr cydbwyso eiconig oll yn ysbrydoliaeth i ddychymyg yr artist.
Yn ogystal â threulio'r diwrnod yn paentio yn yr awyr agored, cewch gyfle i archwilio'r safle a chlywed sgwrs addysgiadol am y Gwaith Haearn gan arbenigwr gwybodus.
Dewch â'ch offer a'ch cyflenwadau eich hun os gwelwch yn dda.
Mae lle i ddeuddeg gofrestru ar gyfer y dosbarth.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Oedolyn |
£50.00
|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Mer 18 Meh 2025 |
10:00 - 17:00
|
Mer 16 Gorff 2025 |
10:00 - 17:00
|
Archebwch |