Dynion Arfog
Bydd Castell Biwmares yn croesawu marchogion brwydrol i'r castell dros benwythnos Gŵyl Banc y Sulgwyn.
Dyma wahoddiad ichi ddod draw i hyfforddi i fod yn farchog yn yr ysgol farchogion i blant. Gall oedolion roi cynnig ar ddysgu sgiliau ymladd sylfaenol â chleddyf a dysgu am arfau a saethyddiaeth yn yr arddangosfeydd a'r sgyrsiau.
Bydd gweithdy sgiliau syrcas i ddifyrwyr hefyd lle gall pawb, yn blant ac oedolion, roi cynnig ar ddysgu triciau y mae'r difyrwyr yn eu defnyddio i ddiddanu.
Gallwch hefyd ymuno â’r House of the Black Star a dysgu ymarferion gwaywffon a sgiliau ymladd a gweld sut y byddai'r milwyr yn ymosod ac yn amddiffyn y castell. Gallwch ddisgwyl straeon, arddangosfeydd coginio, meddygaeth ganoloesol a gwaith lledr, a byddant yn eich tywys drwy'r ffordd o fyw yn ôl yng Nghymru'r Oesoedd Canol.
Bydd cerddorion yn crwydro'r castell yn chwarae alawon canoloesol i bobl y dref eu mwynhau, ac mae croeso i chi ddawnsio os mynnwch.
Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 23 Mai 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sul 24 Mai 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Llun 25 Mai 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£10.40
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£33.30
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£22.90
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£7.20
|
| Pobl hŷn (65+) |
£9.30
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
|