Hwyl Ganoloesol y Pasg
Mae Penwythnos Hwyl y Pasg Castell Biwmares yn ôl am benwythnos llawn hwyl i bawb.
Ymunwch â gweithdai syrcas ar gyfer yr hen a'r ifanc i roi cynnig ar driciau newydd. Dysgwch sut i jyglo, cerdded ar stilts neu ddefnyddio diablo. Mae croeso i bawb roi cynnig arni!
Bydd House of the Black Star yn sefydlu gwersyll canoloesol ar dir y castell ac yn dangos bywyd yn yr oesoedd canol. Gwyliwch y saethwyr yn gollwng eu saethau, ymunwch ag ymarfer gwaywffyn a gwisgwch arfwisg.
Bydd hefyd Helfa Wyau Pasg ddydd Sul a dydd Llun, lle gallwch ddod o hyd i'r cliwiau, meddwl am atebion a dianc o'r castell i hawlio'ch gwobr.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Gwen 18 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Sad 19 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Sul 20 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Llun 21 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|