Arfogi'r marchog
Dewch i gwrdd â'n marchog o'r 14eg ganrif wrth iddo baratoi i fynd ar ymgyrch gydag Edward III i Ffrainc.
Dysgwch am ei arfwisg a'i arfau, am y rhyfeloedd yn Ffrainc, a'u heffaith ar fywyd yng nghastell a thref Cas-gwent.
Bydd pedair sesiwn y dydd am: 11:00, 12:00, 13:30 a 14:30.
Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.