Cas-gwent Dan Warchae 1645
Mae lluoedd y Senedd yn ymosod ar Gastell Cas-gwent!
Profwch brysurdeb bywyd yma yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, gyda milwyr yn gwarchod a sifiliaid yn helpu mewn unrhyw ffordd bosibl i ofalu am y castell a’i gadw’n ddiogel.
Bydd gwersyll yn dangos bywyd bob dydd, yn amrywio o wneud dillad, iacháu'r rhai sydd wedi'u hanafu a gwneud darnau arian.
Bydd arddangosfeydd arfau yn dangos y sgiliau sydd eu hangen i drin gwaywffon 16 troedfedd, a sut i lwytho a thanio mwsged.
Bydd cyfleoedd i wisgo arfwisg a thrin gwaywffon a chleddyf y milwr bonheddig, a gall plant gymryd rhan mewn ymarferion i weld beth sydd ei angen i fod yn filwr yn amddiffyn y castell.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 02 Awst 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 03 Awst 2025 |
10:00 - 16:00
|