Cadw yw Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru ac rydym yn gyfrifol am dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru.
Mae dros 100 o'r safleoedd treftadaeth hyn ar agor a gellir ymweld â nhw am ddim, ond rydym yn codi tâl mynediad ar gyfer safleoedd eraill, ac yn ailfuddsoddi’r arian a godir er mwyn gofalu am ein heiddo.
Mae tocyn Credyd Cynhwysol £1 Cadw ar gael i'w archebu ar gyfer atyniadau ymwelwyr â staff Cadw. Mae tocyn Credyd Cynhwysol Cadw am £1 ar gael i bawb sy'n derbyn budd-daliadau cymwys:
Gellir prynu'r tocyn Credyd Cynhwysol am £1 ymlaen llaw ar wefan Cadw. Nid yw tocynnau £1 ar gael i'w prynu yng nghanolfannau ymwelwyr Cadw.
Sut i archebu ar-lein
Rhaid i chi gyflwyno prawf o'ch cymhwysedd wrth gyrraedd (gweler y rhestr isod) i ddilysu eich archeb ar-lein a bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod ychwanegol i gadarnhau'r enw ar y dogfennau ategol. Nid oes angen i’r ddogfen hon fod yn ddogfen adnabod â llun: bydd cerdyn banc, datganiad banc, bil cyfleustodau neu gerdyn adnabod ar gyfer eich swydd yn iawn.
Pan fydd ein tîm wedi dilysu eich archeb, codir tâl o £1.00 arnoch.
Os na allwch brynu tocynnau ar-lein, ffoniwch Cadw ar 02920 786022 a gofynnwch iddynt anfon tocyn £1 gyda chod QR atoch yn y post.
Gall unrhyw un sy'n gymwys brynu hyd at chwe thocyn i bob aelwyd fesul ymweliad. Dim ond un person o bob aelwyd sy’n gorfod dangos dogfennau ategol.
Rhaid i bob unigolyn sy'n prynu tocyn ddangos dogfen adnabod Credyd Cynhwysol a phrawf o’u hunaniaeth.
Nid oes angen tocynnau ar gyfer: Plant o dan 5 oed, pobl anabl a’u cymdeithion.
Mae'r tocyn £1 yn ddilys ar gyfer un person yn unig, naill ai oedolyn 18 oed neu drosodd neu blentyn 5-17 oed.
Rhaid i ymwelwyr ddod â’r pethau hyn i'r safle:
3. Eitem ychwanegol i ddangos pwy ydych chi er mwyn cadarnhau'r enw ar y dogfennau ategol. Nid oes angen i’r ddogfen hon fod yn ddogfen adnabod â llun: bydd cerdyn banc, datganiad banc, bil cyfleustodau neu gerdyn adnabod ar gyfer eich swydd yn iawn.
Rhaid i bob person sy'n prynu tocyn ddangos prawf eu bod yn gymwys. Gall unrhyw un sy'n gymwys brynu hyd at chwe thocyn i bob aelwyd fesul ymweliad. Dim ond un person o bob aelwyd sy’n gorfod dangos dogfennau ategol ond rhaid i bob
Os ydych wedi prynu tocynnau ar gyfer mynediad cyffredinol neu ddigwyddiad, anfonir y rhain drwy e-bost.
Os ydych yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, anfonir arolwg ôl-ymweliad atoch i ofyn am adborth am eich ymweliad.
Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu na'i storio ar blatfform ein harolwg oni bai eich bod yn dewis cwblhau'r arolwg a chymryd rhan yn ein raffl i gael cyfle i ennill gwobr.
Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo tocynnau mynediad i'r safle i ddyddiad, amser na lleoliad arall.
Os na chaiff tocynnau eu defnyddio ar y safle ar y dyddiad a'r amser penodedig byddant yn cael eu defnyddio’n awtomatig ac yn dod yn annilys.
Dylech gyrraedd gyda'ch tocynnau wedi'u hargraffu ymlaen llaw NEU ar eich dyfais symudol i gael mynediad.
Weithiau mae rhai safleoedd ar gau am resymau y tu hwnt i'n rheolaeth, neu efallai y byddant yn cynnal diwrnodau mynediad am ddim a / neu ddigwyddiadau arbennig. Rydym yn argymell i chi edrych ar wefan Cadw neu ffonio’r safle cyn eich ymweliad arfaethedig i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gynlluniau i gau.
Am unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â thocynnau, cysylltwch â: cadw@tfw.wales