Castell Cydweli
Cadarnle Normanaidd llawn cystal â chestyll gorau Cymru
Os gwelwch Gastell Cydweli yn codi uwchlaw afon Gwendraeth yn niwl y bore, byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu. Hwn yw caer ganoloesol breuddwydion pawb.
Dyna pam yr ymddengys, mae’n siŵr, yng ngolygfa gyntaf un ‘Monty Python and the Holy Grail’. Ond nid ar chwarae bach y buasai ymosod ar y cadarnle milwrol hwn.
Dechreuodd Cydweli tua dechrau’r 12fed ganrif yn gastell ‘cylchfur’ Normanaidd wedi’i wneud o bren ac wedi’i amddiffyn gan glawdd pridd a ffos yn unig. Nid yw’n syndod ei fod dan ymosodiad cyson gan dywysogion Cymru gan gynnwys Arglwydd Rhys, a’i cipiodd ym 1159.
Bedwar degawd yn ddiweddarach, roedd y Normaniaid yn ôl wrth y llyw. Erbyn y 1280au, roedd y brodyr Chaworth, arglwyddi grymus y Mers, wedi creu’r ‘castell o fewn castell’ carreg sy’n dal i sefyll heddiw.
Dychmygwch fod yn ymosodwr o Gymro. Yn gyntaf, byddai’n rhaid ichi orchfygu’r porthdy mawr gyda’i bont godi a phorthcwlis, a hithau’n bwrw saethau a chreigiau ar eich pennau. Petaech chi wedi torri’r amddiffynfeydd allanol hyn, byddech yn wynebu pedwar tŵr y cwrt mewnol. Dim ffordd ymlaen – a dim un man i guddio. Lladdfa go iawn.
Ar ôl canrifoedd o wrthdaro yn ôl ac ymlaen rhwng goresgynwyr Normanaidd a thywysogion brodorol, roedd Cydweli yn awr lawn cystal ag unrhyw gastell yng Nghymru. Y porthdy a ychwanegwyd gan Ddugiaeth Gaerhirfryn a goronodd y cyfan. Ni allai lluoedd Owain Glyndŵr hyd yn oed dorri trwodd.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image Expand image Expand image Expand imageAmseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am-5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am-6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am-5pm |
1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am-4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£7.50
|
Teulu* |
£24.00
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£5.30
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.00
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle Rd, Cydweli SA17 5BQ
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01554 890104
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost KidwellyCastle@llyw.cymru
Cod post SA17 5BQ
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.