Skip to main content

Hysbysiad ymwelwyr

Mae ein timoedd ar hyn o bryd yn gweithio i asesu peth gwaith atgyweirio maen sydd ei angen ar y Porthdy Mewnol; yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd angen i ni gyfyngu mynediad i’r rhan hon o’r castell am resymau iechyd a diogelwch.

Diolch am eich amynedd a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich ymweliad.

Arolwg

Eiddo tiriog o’r radd flaenaf

Golygfeydd i’ch llorio yw rhan o apêl Llansteffan. Y castell pentir hwn, uwchben tir ffermio glas, môr chwyrlïog a thywod disglair Moryd Tywi a Bae Caerfyrddin, sy’n hawlio un o’r lleoliadau mwyaf ysblennydd yng Nghymru. Nid yw hynny’n golygu bod diffyg diddordeb yn perthyn i’r cadarnle ei hun.  Mae Llansteffan, a arferai reoli man croesi afon pwysig, yn meddu ar safle a amddiffynnwyd ers yr adegau cynhanes.

Mae ei waliau carreg garw, yn dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif, yn amgáu caer bentir o’r Oes Haearn a feddiannwyd yn 600 CC. Er ei fod bellach yn adfail, nid yw’r castell wedi colli ei bŵer i frawychu - yn enwedig wrth ichi ddynesu at ei borthdy enfawr â dau dŵr, wedi’i adeiladu tua 1280 ac yn enbyd o fawr o hyd.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Llansteffan, ar y B4312, 8m (12.9km) i’r De Orll. o Gaerfyrddin.
Rheilffordd
Caerfyrddin 9m (14.5km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 4 (4.8m/7.7km)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50