Cartref byddigions gyda'i dŵr gwylio ei hun
Ei leoliad dramatig ar arfordir gwyntog Penrhyn Gŵyr - yn edrych dros gorsydd a gwastadeddau llaid gydag aber gwyllt afon Llwchwr yn y pellter fydd eich atgof parhaus am Weble.
Rhaid bod yr olygfa epig hon yr un peth heddiw ag roedd hi 700 mlynedd yn ôl pan godwyd y plasty caerog hwn gam wrth gam gan deulu cyfoethog y de la Bere, stiwardiaid i arglwyddi Gŵyr.
At ei gilydd, roedden nhw eisiau creu cartref urddasol i ddiddanu gwesteion bonheddig. Mae'r neuadd fawr, siambrau’r gwesteion â’u toiledau dan do ac ystafell haul yr arglwydd, neu’r ystafell ymneilltuo breifat, i gyd yn awgrymu cryn ysblander.
Ond mae’r tŵr gwylio, copaon y muriau ar steil milwrol a’r tŵr de-orllewinol a godwyd i uchder bylchfur yn dangos fod y rhain yn dal yn amseroedd peryglus. Bu'n rhaid i foethusrwydd ac amddiffyn fynd law yn llaw.
Serch hynny, aeth canrif heibio cyn i Weble ddioddef niwed difrifol yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau'r 15fed ganrif.
| 1st Ebrill - 31st Hydref | 9.30am-6pm |
|---|---|
| 1st Tachwedd - 31st Mawrth | 9.30am-5pm |
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
| Categori | Price | |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
| Oedolyn |
£5.35
|
|
| Teulu* |
£17.10
|
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£3.70
|
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£4.80
|
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd |
||
Cŵn tywys yn unig
Cŵn tywys yn unig yn y safle.
Maes parcio
Mynediad i bobl anabl
Glaswellt am 50 metr cyn mynedfa'r castell gyda llwybr coblog serth sydd weithiau'n llithrig.
Mae castell ar sawl lefel. Mynediad i gadeiriau olwyn yn anodd.
Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.
Gellir rhoi caniatâd i barcio ar dir fferm yn agosach at y castell.
Toiledau
Mae toiledau yng ngardd y ffermdy.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Byrddau picnic
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Tywyslyfr
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Weobley Castle is a joint-managed site and operates differently to those staffed by Cadw.
Please call the owner directly on 01792 390012 to discuss possible visit arrangements with them.
Thank you.
Iechyd a Diogelwch
Yn ei le uwchlaw’r aber, mae Castell Weble yn cynnig golygfeydd syfrdanol sydd ddim i’w cael yn unlle arall.
Mae'r castell ar dir fferm sy’n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan y ffermwr lleol, felly byddwch yn ymwybodol o gerbydau ac offer fferm. Ni chaniateir cŵn yma oherwydd y defaid a’r cŵn defaid sydd ar y fferm. Rhaid i chi dalu/dangos eich cerdyn aelodaeth yn siop y fferm.
Mae'r tir o gwmpas ac o fewn y castell yn gymharol wastad, gydag ambell i ris i gyrraedd y lle arddangos bychan. Mae digon o gyfle i grwydro y tu mewn ac o amgylch y castell. Cofiwch y gall y glaswellt fod yn wlyb mewn tywydd llaith, ac y gall y llawr tu mewn i'r castell fod yn anwastad yn ambell i le.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Cerrig yn disgyn
Cyf Grid: SS478927. Lled/Hyd: 51.6128, -4.1992.
what3words: ///amodau.anheddu.trefnais
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50