Mae Castell Oxwich ar agor fel rhan o'n rhaglen teithiau tywys o fis Mai i fis Awst bob blwyddyn. Mae'r teithiau hyn yn gyfle unigryw i archwilio'r safle gyda gwybodaeth arbenigol am ei hanes a'i arwyddocâd. Ydych chi eisiau bod ymhlith y rhai cyntaf i gael gwybod am ddyddiadau newydd ar gyfer teithiau, a’r prisiau?
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a bydd diweddariadau’n dod yn syth i'ch mewnflwch
Castell mewn enw yn unig, ond yn creu tipyn o argraff
Mae’ch llygaid yn gallu’ch twyllo. Saif Castell Oxwich yn ysblennydd uwchlaw ehangder braf Bae Oxwich, ond nid castell mohono o gwbl.
Maenordy Tuduraidd mawreddog ydyw a adeiladwyd gan dad a mab uchelgeisiol, a’u haddurniadau ffug-milwrol yn ymwneud ag esgyn cymdeithasol yn hytrach nag amddiffyn.
O’r funud y cerddwch chi drwy’r porth urddasol wedi’i addurno ag arfau Syr Rice Mansel, mae’n amlwg mai hwn oedd cartref teulu bonedd a oedd am fod yn ei chanol hi ym mlynyddoedd ffyniannus yr 16eg ganrif.
Mae adain ddeheuol gymharol blaen Syr Rice, a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach yn ffermdy tan 1954, yn gyflawn o hyd. Ond adfail bellach yw adain ddeheuol afradlon ei fab Edward, a’i neuadd ddeulawr a galeri hir urddasol yn meddu golygfeydd rhyfeddol o’r môr.
Y tu allan, olion colomendy anferth gyda 300 o nythod yw’r clos. Diben hwn yn rhannol oedd darparu cig ffres i’r castell drwy gydol y flwyddyn – a brolio hefyd, yn rhannol. Yn rhyfeddol, mae Oxwich yn dal yn eiddo i ddisgynyddion teulu Mansel.
| 1st Medi - 1st Mai | AR GAU |
|---|---|
Toiledau hygyrch
Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Lle i gadw beiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio
Grassed car park for approx. 15/20 cars. No dedicated disabled spaces.
Croeso i gŵn
Caniateir cŵn ar dennyn ond ni chânt fynediad i’r arddangosfeydd.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ar dir y castell, 50 metr o'r swyddfa docynnau.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Byrddau picnic
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Sylwch fod y safle dim ond ar agor pan fydd staff yn gweithio yn ystod diwrnodau agored a drefnwyd, gwiriwch cyn teithio.
Wedi'i leoli ar arfordir Oxwich, gallwch ddod o hyd i'r castell drwy ddilyn y ffordd fechan i fyny heibio'r traeth. Wrth fynd trwy giât y maes parcio, byddwch ar lwybr byr i gerddwyr sy'n arwain tuag at y castell.
Wrth fynd i diroedd y castell fe welwch fod gan y cwrt gerrig crynion sy’n anwastad mewn mannau. Mae'r mannau mewnol yn cael eu cynnal, wedi'u goleuo'n dda ac yn wastad dan draed.
Bydd grisiau pren yn mynd â chi i fyny i'r ystafell wely a lefelau uchaf y tŷ. Defnyddiwch y rheiliau llaw a ddarperir.
Wrth archwilio ardaloedd allanol y safle, byddwch yn ofalus wrth gerdded. Mae sawl coeden ar y safle, a all achosi llwybrau dan draed i fynd yn llithrig.
Mae grisiau allanol yn rhoi rhywfaint o fynediad at y lefel uchaf, defnyddiwch y rheiliau llaw a ddarperir a byddwch yn ymwybodol o'r gwaith cerrig hanesyddol.
Mae ardaloedd tir is yn dywyllach nag arfer; fodd bynnag, ni fydd hyn yn rhwystro eich ymweliad, gan ganiatáu amser i'ch llygaid addasu. Mae gan yr ardal isaf do is, gwyliwch eich pen!
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Wyneb llithrig neu anwastad
Golau gwael
Cerrig yn disgyn
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost cadw@tfw.wales
Cod post SA3 1ND
what3words: ///fferyllydd.ffynhonnell.llythyr
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol