Skip to main content

Prin yw’r wybodaeth am Gastell Oxwich cyn i deulu Mansel greu ei faenordy ag amddiffynfeydd a dileu unrhyw weddillion castell canoloesol hwyr. 

Ond fe’i daliwyd tua dechrau’r 14eg ganrif gan Robert de Peres, y taflwyd bai trwm arno am ddiflaniad trysor brenhinol a oedd yn eiddo i Edward II ar ôl ei ymddiorseddiad ym 1327.

Er gwaethaf 10 mlynedd o ymchwiliad, ni phrofwyd dim erioed. Ond ym 1968 datgelodd gwaith cadwraeth yn Oxwich dlws modrwy aur coeth wedi’i osod â rhuddemau a chameos bychain.  

A allai Tlws Oxwich, un o’r darnau ceinaf o emwaith canoloesol ym Mhrydain, fod yn rhan o gelc coll Edward? Ewch i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i benderfynu drosoch chi’ch hunain.