Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Gwybodaeth am gwcisRydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:
Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:
Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.
Diogelwch safleoedd hanesyddol Cymru ar ran rhywun annwyl y Nadolig hwn. Dewiswch 'Anrheg Nadolig' ar ôl dewis eich aelodaeth; cewch 10% i ffwrdd gyda'r cod hwn: NADOLIGCADW10 - Ymunwch
Castell Oxwich
Prin yw’r wybodaeth am Gastell Oxwich cyn i deulu Mansel greu ei faenordy ag amddiffynfeydd a dileu unrhyw weddillion castell canoloesol hwyr.
Ond fe’i daliwyd tua dechrau’r 14eg ganrif gan Robert de Peres, y taflwyd bai trwm arno am ddiflaniad trysor brenhinol a oedd yn eiddo i Edward II ar ôl ei ymddiorseddiad ym 1327.
Er gwaethaf 10 mlynedd o ymchwiliad, ni phrofwyd dim erioed. Ond ym 1968 datgelodd gwaith cadwraeth yn Oxwich dlws modrwy aur coeth wedi’i osod â rhuddemau a chameos bychain.
A allai Tlws Oxwich, un o’r darnau ceinaf o emwaith canoloesol ym Mhrydain, fod yn rhan o gelc coll Edward? Ewch i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i benderfynu drosoch chi’ch hunain.