Beddrod Siambr Parc le Breos
Esiampl wych o feddrod siambr Neolithig
Wedi’i ddarganfod ym 1869 gan weithwyr yn cloddio am gerrig ffordd, mae’r beddrod siambr Neolithig hwn (Oes Newydd y Cerrig) ymhlith y goreuon yn y rhan hon o Gymru o ran cyflwr. Mae’r ddau allwthiad o gwmpas y fynedfa yn arddangos steil nodweddiadol crugiau hirion honedig ‘Cotswold-Hafren’ y rhanbarth. Yn ystod cloddiadau helaeth o Barc le Breos, a ddefnyddiwyd o hyd am ryw 300 i 800 mlynedd eto, datgelwyd esgyrn o leiaf 40 o wahanol unigolion.
A’r beddrod tua 70 troedfedd/21m o hyd, mae’n cynnwys tramwyfa gul sy’n arwain at bedair siambr fechan a meini unionsyth ar hyd eu waliau. Er tybir bod llechi maen capan mawr yn gorchuddio’r beddrod ar un adeg, ni chanfuwyd ôl y meini hyn erioed.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Bob dydd 10am–4pm Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
---|---|
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|