Dim ond ychydig flynyddoedd a gymerodd y Normaniaid goresgynnol i orchfygu Lloegr ar ôl Brwydr Hastings yn 1066. Ond cymerwyd dwy ganrif a hanner i drechu Cymru.
Mae Castell Cydweli yn symbol o’r gwrthdaro parhaus hwn. Ac yma ym 1136 y trodd rhyfelwraig o dywysoges ei hun yn un o arwresau mwyaf hanes Cymru.
Roedd Gwenllian yn un o deulu brenhinol go iawn Cymru – a hithau’n chwaer i dywysog y gogledd Owain Gwynedd ac yn wraig i Gruffudd ap Rhys, Arglwydd y Deheubarth. Ond nid bywyd tywysoges wedi’i difetha oedd ei bywyd hi o bell ffordd.
O dan fygythiad cyson gan y Normaniaid, fe’i gorfodwyd i guddio yn y coedwigoedd dwfn, lle magodd bedwar mab. Roedd ei gŵr yn brysur yn adeiladu byddin ac yn cynllwynio cyrchoedd dirybudd. Ond dewisodd yr amser anghywir i fynd i’r gogledd am gymorth.
Yn ei absenoldeb, dechreuodd Maurice de Londres, arglwydd Castell Cydweli, gasglu lluoedd ar gyfer gwrthymosodiad. Roedd rhaid ei stopio. Felly tynnodd Gwenllian ei chadwisg amdani, ac i ffwrdd â hi i faes y gad.
Roedd megis rhyw ail Frenhines yr Amasoniaid, yn ôl yr hanesydd Gerallt Gymro. Mae rhai’n ei galw hi’n Boudicca Cymru – yr unig fenyw i arwain byddin Gymreig ganoloesol i frwydr.
Ond ni allent gystadlu â’r Normaniaid. Cafodd hithau ei chipio a’i dienyddio am frad. Dywedir bod ffynnon wedi ffrydio lle bu farw – a gelwir y man hwnnw o hyd yn Faes Gwenllian.
Ni fu farw’n ofer. Ysbrydolodd wrthryfel poblogaidd a ysgubodd y Normaniaid allan o Orllewin Cymru. O’r diwedd, cyflawnwyd gwir lawn haeddiant gan ei mab ieuengaf, Rhys ap Gruffudd, nad oedd ond pedair blwydd oed pan fu farw ei fam.
Llwyddodd Arglwydd Rhys, fel y byddai’n cael ei adnabod yn ddiweddarach, i gipio Castell Cydweli ym 1159 ac fe’i cydnabuwyd gan Frenin Harri II yn llywodraethwr diamheuol y rhanbarth. Ond ym 1197 sbardunodd ei farwolaeth frwydr dros rym. Ar ôl pedair blynedd yn unig, dychwelodd y castell i ddwylo Eingl-Normanaidd.
Gallwch dalu teyrnged i’r hardd a dewr Dywysoges Gwenllian yn ei chofeb ger porthdy’r castell. Efallai y gwelwch chi’r ysbryd di-ben sy’n crwydro’r tir, yn ôl y sôn.