Camu'n ôl mewn amser
Gwisgwch eich esgidiau dawnsio ac ewch i Gastell Cas-gwent y penwythnos hwn wrth i ni ddysgu am esblygiad dawns, o'r farandole canoloesol i ddawnsfeydd llys Ffrainc yn yr 17eg ganrif.
Gydag arddangosiadau a gweithdai lle mae’r gynulleidfa’n cymryd rhan yn digwydd drwy gydol y penwythnos, mae hwn yn ddigwyddiad hwyliog a rhyngweithiol i'r teulu cyfan.
Nid oes angen archebu lle.
Does dim cost ychwanegol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 26 Gorff 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 27 Gorff 2025 |
10:00 - 16:00
|