Taith Tywys
Dewch ar daith gyda’r tywysydd Deian ap Rhisiart i gyfarfod cyfrinachau’r castell a adeiladwyd yn wreiddiol gan Llywelyn Fawr.
Dyma gastell fu’n newid dwylo yn aml rhwng y Cymry a’r Saeson a dychmygwch yn y canol oesoedd pa mor beryglus ac ansefydlog oedd y cyfnod wrth i ryfel fod yn gysgod parhaus ar y trigolion.
Awn yn ol mewn hanes gan fentro i fyd y milwyr Cymreig a oedd ceisio cipio’r castell. Gwaed ac urddas, angerdd a mawredd, y cyfan yn amlwg yn hanes y drydedd ganrif ar ddeg.
Camwch wedyn i eisgidiau cadfridion y chwedlonol Owain Glyn Dwr wrth iddynt gipio’r castell a’i losgi. Ar y daith, profwch y cyffro, y yr helynt a’r dinistr wrth i Glyn Dwr a’I ddynion ymladd ei gwrthryfel cenedlaethol.
Awr o daith yn chwilota rhwng muriau trawiadol Castell Cricieth.
Bydd y digwyddiad yn daith gerdded a fydd yn para 60 munud yn dechrau yn y ganolfan groeso ac yn cael ei arwain rhwng muriau Castell Criccieth. Bydd yna gyfyngiadau symudedd mewn mannau ar y daith ond addas i'r teulu
Teithiau am 11am, 1pm a 3pm.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau digwyddiad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• edrychwch ar amseroedd digwyddiadau a’r prisiau isod
*Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. Ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 08 Hyd 2023 |
11:00 - 16:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£6.80
|
Teulu* |
£22.10
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£4.80
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£6.30
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd |