Castell Cricieth
Castell arfordirol ysblennydd a adeiladwyd – ac a ddinistriwyd – gan dywysogion grymus Cymru
Yn ddi-os, mae Cricieth yn gastell i hoelio’r dychymyg. Mae’n coroni ei bentir creigiog ei hun rhwng dau draeth, ac yn edrych dros nifer o olygfeydd rhyfeddol ar draws y dref ac ar hyd cwmpas eang Bae Ceredigion.
Does dim rhyfedd bod Turner wedi teimlo ysgogiad i'w baentio. Erbyn hynny roedd y castell yn adfail pictiwrésg – wedi’i ddinistrio gan un o dywysogion mwyaf grymus Cymru’r Canol Oesoedd, Owain Glyndŵr.
Ond roedd wedi’i adeiladu gan ddau o'i ragflaenwyr, gwŷr mawr eu bri. Yn gyntaf, crëwyd y porthdy enfawr, gyda thyrau cerrig siâp D ar y naill ochr a'r llall iddo, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Yna ychwanegodd ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd - neu Llywelyn Ein Llyw Olaf - y ward allanol, y llenfuriau a dau dŵr newydd.
Serch hynny, doedd oedd y gaer greigiog hon ddim yn ddigon i wrthsefyll ymosodiad gan Edward I. Gwnaethpwyd ychydig welliannau gan frenin Lloegr ei hun pan osodwyd peiriant taflu cerrig ar y tŵr gogleddol er mwyn atal ymosodiadau o du’r Cymry.
Roedd y castell yn dal yn nwylo Lloegr yn 1404 pan losgwyd y tyrau’n rhuddion gan Owain Glyndŵr. Heb garsiwn i'w ddiogelu, daeth y dref yn un gyfan gwbl Gymreig unwaith eto.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image
Expand image
Expand image
Expand image
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Ebrill - 2nd Tachwedd | 10am-5pm (Ar gau Mawr-Merch) |
|---|---|
| 3rd Tachwedd - 31st Mawrth | 10am-4pm (Ar gau Llun-Iau) |
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. |
|
Prisiau
| Categori | Price | |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
| Oedolyn |
£7.90
|
|
| Teulu* |
£25.30
|
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£5.50
|
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.10
|
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
||
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Mynediad i feiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio
Mae lleoedd parcio ar gael ar y stryd gerllaw. Mae maes parcio taly ac arddangos yr awdurdod lleol ar gael ger y traeth (tua 300 metr).
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Cyflwyniad fideo
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Nid oes lle parcio penodol ar gyfer y castell, ond mae sawl lle i barcio am ddim ar y brif stryd.
Mae maes parcio mwy ar waelod yr allt, tua 400m oddi wrth y castell.
Mae mwy nag un llwybr i fyny’r allt, gyda gwahanol olygfeydd o'r traeth islaw. Mae'r prif lwybr yn serth iawn, ond mae canllaw i’ch helpu i’w ddringo.
Cewch fynediad i'r castell trwy'r ganolfan ymwelwyr, ac mae’r rhwydwaith o lwybrau yn dechrau o gefn y siop.
Pan fyddwch ar y copa, byddwch yn ofalus o gwmpas unrhyw waith maen isel. Oherwydd gwyntoedd cryfion ar y safle, rydym yn argymell i chi aros o fewn ffiniau’r castell a pheidio â cherdded ar y glaswellt ar yr ymylon. Gall fod yn llithrig pan fo’n wlyb.
Wedi i chi gyrraedd y castell, mae gweddill y llwybr yn gymharol wastad.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Gwyntoedd uchel
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle St, Cricieth LL52 0DP
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01766 522227
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost Criccieth.Castle@llyw.cymru
Cod post LL52 0DP
what3words: ///marciaf.papurau.gobennydd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.