Skip to main content

Castell Cricieth — Canllaw Mynediad

Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:

Ebost: Criccieth.Castle@llyw.cymru    Ffôn: 03000 252239

Ymweld â Castell Cricieth 

Does dim maes parcio yng Nghastell Cricieth, ond mae caniatâd parcio ar y ffordd o gwmpas y castell:  Golwg mapiau Google

Mae sawl maes parcio â thâl yn y dref o fewn pellter cerdded/gwthio i'r castell, yn cynnwys maes parcio awdurdod lleol â thâl tua 300 metr i ffwrdd.

Mae’r castell ar ffordd gyda llethr gymedrol.

Mae rhesel feiciau ar gael y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr hefyd.

Mae dwy lefel i'r ganolfan ymwelwyr, mae'r llawr gwaelod yn siop ac ardal derbyn, ac mae'r ardal tir isaf yn ofod arddangos. Mae mynediad i’r ardal tir isaf trwy gwpl o risiau neu drwy ddefnyddio ein lifft platfform hygyrch.

Mae'r llwybr sy'n arwain at y Castell tua 70 metr o hyd ac yn serth iawn gyda thua 10 gris garreg igam ogam ar wasgar. Mae canllaw ar gael ar ran o'r llwybr.

Toiledau: mae un toiled hygyrch ar y safle. Does dim cyfleusterau newid babanod.  

Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad ydynt yn gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig. Dŵr ar gael i gŵn.

Criccieth Castle pathway to castle entrance

Unwaith rydych yn cyrraedd pen y bryn, mae'r castell i gyd ar un lefel ac yn cael ei osod i laswellt gan amlaf (rhai ardaloedd graean ac anwastad).

Cynllun Llawr — Castell Cricieth 

 

Taith sain   
Caffi
Diffibriliwr
Powlen i gŵn                                                   
Canllawiau print bras
Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio 
Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri 
Cyfleusterau picnic 
Dolenni sain cludadwy
Gorsaf ail-lenwi dŵr
  Nac oes
Nac oes
Nac oes
Oes
Nac oes
Nac oes
Oes – ar risg y perchennog
Oes – mae sawl mainc o gwmpas y castell
Oes
Nac oes