Hwyl y Pasg
Ymunwch gyda ni i ddathlu’r Pasg yng Nghastell Dinbych.
Mi fydd Teulu’r Tywysog yma i ddangos eu sgil a’u gwybodaeth am fywyd a brwydro canoloesol, gyda digon o gyfle i gymryd rhan.
Ar y dydd Sul, mi fydd SMJ Falconry yn adlonni ni hefo’u arddangosfa hedfan a sgwrs ar yr adar ysglyfaethus.
Fydd hefyd gyfle i fod yn greadigol wrth ein bwrdd crefftau a chreu crefftau gŵyl y Pasg.
Ac wrth gwrs fydd yno her yr helfa Pasg i’w gyflawni i ennill gwobrau siocled - tra bod stoc ar gael!
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 04 Ebr 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 05 Ebr 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£6.50
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£20.80
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£14.30
|
| Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£4.50
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.80
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
|