Gwŷl Ganoloesol
Dewch i weld Castell Biwmares yn cael ei gludo’n ôl i’r Oesoedd Canol, lle bydd marchogion, arglwyddi ac arglwyddesau, cerddorion a chellweiriwyr yn mynd â chi’n ôl i weld sut beth oedd bywyd yng Nghymru yn y cyfnod hwn.
Profwch fywyd yr Oesoedd Canol ar ei orau. Ymwelwch â’r gwersyll canoloesol, dysgwch sut i wneud saethau, gwaith lledr, coginio canoloesol, arfau, gemau a mwy.
Bydd yna arddangosiadau am arfwisgoedd a sut i’w gwisgo, a sut y defnyddid arfau yn erbyn marchogion a’u gwisgai. Bydd yna hefyd arddangosiadau sy’n dangos sut yr ofnid saethwyr ar faes y gad, gyda chyfle i ddysgu sut i saethu marchog, a bydd yna hefyd arddangosiad am ddillad, a sut y câi ei ddefnyddio i ddangos braint a chyfoeth.
Cadwch lygad allan am ddienyddiwr y castell, gyda’i straeon ofnadwy am arteithio ac enghreifftiau o offer a ddefnyddid yn ôl yn nyddiau tywyll cosbau canoloesol.
Gwyliwch farchogion yn hyfforddi yn yr arena brwydro, a byddwch yn barod am frwydr. Cadwch lygad allan hefyd am y saethwr meddw.
Ymunwch â hyfforddiant dril a’r Ysgol Marchogion ar gyfer yr hen a’r ifanc.
A bydd cellweiriwr y castell yno i’ch difyrru gyda’i jôcs doniol a’i driciau peryglus.
Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda brwydr fawr rhwng Gerard de Rhodes a’r Capten Nicholas Horton, gyda'u dynion a'u saethwyr. Fydd pethau ddim yn mynd yn dda i’r Capten Horton, a bydd angen iddo recriwtio mwy o farchogion o'r dorf! Bydd plant tair ar ddeg oed ac iau yn cael eu gwahodd i ymuno â rhengoedd y Capten i helpu i drechu Syr Gerard a'i farchogion.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 23 Awst 2025 |
10:00 - 17:00
|
Sul 24 Awst 2025 |
10:00 - 17:00
|
Llun 25 Awst 2025 |
10:00 - 17:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£10.50
|
Teulu* |
£33.60
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.30
|
Pobl hŷn (65+) |
£9.40
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |