Cloddio Fictoraidd
Mae lefelau uchaf Castell Coch wedi cael eu hailadeiladu yn null oes Fictoria, ond mae'r lefelau isaf a'r sylfeini yn rhai Canoloesol. Cyn i'r gwaith ail-adeiladu hwn gael ei gynnal, cynhaliwyd cyfres o gloddiadau archaeloegol gan G.T.Clark, y cyhoeddwyd ei waith yn 1850.
Ymunwch â ni i ail-greu'r gwaith cloddio oes Fictoria a gynhaliwyd yma yn ystod y 1800au. Torchwch eich llewys a dewch o hyd i drysorau amrywiol o'r Oesoedd Canol, ceisiwch ddyfalu beth sydd gennych yn eich llaw! Dysgwch sut i gofnodi'r eitemau hyn yn eu cyd-destun archaeolegol a rhowch gynnig ar y dulliau hyn sy'n dal i gael eu defnyddio hyd heddiw.
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Mer 29 Gor 2026 |
11:00 - 15:00
|
| Iau 30 Gor 2026 |
11:00 - 15:00
|
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£10.90
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£34.90
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£24.00
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£7.60
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.80
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).
|
|