Mae Ainon yn gapel y Bedyddwyr o ganol y 19eg ganrif, gradd II*, sydd mewn cyflwr arbennig o dda, ac sydd wedi cadw ei gymeriad allanol a mewnol heb lawer o newid. Fe'i disgrifiwyd yn The Buildings of Wales: Gwynedd (2009) fel 'a charming rural chapel of massive field stones, near-square with deep flat eaves and domestic doors and windows’. Tynnwyd sylw hefyd at y pulpud uchel, panelog, syml.
Ar gyfer Drysau Agored, bydd y capel ar agor i ymwelwyr, gydag Ymddiriedolwr yn bresennol.
Cyfeiriad - Capel Ainon, Llanuwchllyn, Gwynedd, LL23 7UE.
Mae Ainon wedi'i leoli ar brif ffordd yr A494 rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn.
Nid oes angen archebu tocyn ymlaen llaw.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 05 Med 2026 |
11:00 - 15:00
|