Teithiau Rhuddlan
Ymunwch â'n tywysydd bywiog a darganfyddwch y straeon y tu ôl i gerrig y castell trawiadol hwn. Mae castell Rhuddlan yn aml yn cael ei anwybyddu o blaid ei gefndryd mwy, ond mae’n gastell arwyddocaol iawn yn hanes Cymru.
Bydd y castell a’i orffennol yn dod yn fyw mewn taith dywys o amgylch llawr gwaelod y gaer hon, ynghyd â thaith gerdded ddewisol i Twthill gerllaw a safleoedd hanesyddol eraill yn Rhuddlan.
Bydd y teithiau am 10.30am, 1pm a 3pm.
Dim ond taliadau mynediad arferol sy'n rhaid eu talu ac nid oes angen archebu lle.
Noder: bydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen os bydd tywydd gwael (oni bai bod rhaid cau'r safle), ond efallai y bydd angen ei gwtogi. Cynghorir gwisgo dillad ac esgidiau synhwyrol.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 07 Medi 2025 |
10:30 - 16:00
|