Gorffwys yn yr Abaty yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau - 1471
1471, mae criw o saethwyr a'u teuluoedd yn gorffwys yn yr Abaty er mwyn talu teyrnged i William Herbert, Iarll Penfro.
Maen nhw wedi sefydlu gwersyll ar dir yr abaty ac yn dal ati i ymarfer eu sgiliau bywyd bob dydd – fel pluo, nyddu, lliwio, coginio, gwaith lledr, plethu brwyn ac, wrth gwrs, hamddena ym Mhabell y Dafarn. Gall un ysgrifennu, hyd yn oed!
Dewch i'w gweld wyneb yn wyneb a rhoi cynnig ar gemau bwrdd a dis Canoloesol, neu blethwaith efallai. Gwyliwch y cogyddion yn paratoi pryd bwyd y criw, a holwch y paledrydd am ei sgiliau a’i lwyddiannau.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 03 Mai 2025 |
10:30 - 16:00
|
Sul 04 Mai 2025 |
10:30 - 16:00
|
Llun 05 Mai 2025 |
10:30 - 16:00
|
Sad 30 Awst 2025 |
10:30 - 16:00
|
Sul 31 Awst 2025 |
10:30 - 16:00
|