Abaty Tyndyrn
Hysbysiad Ymwelwyr
Mae eglwys yr abaty ar hyn o bryd yn mynd trwy raglen o waith cadwraeth ac atgyweirio er mwyn sicrhau bod yr heneb yn parhau i gael ei chadw. Gallai hyn effeithio ar eich ymweliad gan fod angen i ni gyfyngu mynediad i rai mannau oherwydd pryderon iechyd a diogelwch.
Diolch am eich amynedd a’ch cefnogaeth gyda hyn.
Bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod o amgylch yr eglwys Gothig yn Abaty Tyndyrn o ddydd Llun 8 Ebrill i’n galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tywodfaen ar waliau uchaf yr eglwys, gan eu bod yn hindreuliedig ac yn malurio. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ymweld â’r safle gogoneddus hwn. Yn sgil unrhyw darfu, cynigir disgownt o 10% i ymwelwyr oddi ar y pris mynediad.
Arolwg
Campwaith Gothig yn dod yn symbol Rhamantaidd o'r aruchel
Mae Abaty Tyndyrn yn eicon cenedlaethol – ac yn dal i sefyll yn ei ysblander di-do ar lannau Afon Gwy, a hynny bron i 500 mlynedd ers ei gwymp trasig oddi wrth ras.
Fe'i sefydlwyd ym 1131 gan fynachod Sistersaidd, oedd yn hapus i fodloni ar adeiladau pren ar y dechrau. Roedd yr Abad Henry, lleidr diwygiedig, yn fwy enwog am ei arfer o wylo wrth yr allor nag am ei uchelgais bensaernïol.
Codwyd eglwys seml o garreg a chlasau yn ddiweddarach. Ond wedyn, diolch i nawdd arglwyddi cyfoethog y Mers, dechreuodd y mynachod yn eu gynau gwynion anelu’n uwch.
Yn 1269 aethpwyd ati i adeiladu eglwys abadol newydd a ddaethon nhw ddim i ben nes creu un o gampweithiau pensaernïaeth Gothig Prydain. Mae'r ffrynt gorllewinol gwych gyda'i ffenestr saith lansed a bwâu esgynnol corff yr eglwys yn dal i syfrdanu rhywun.
Roedd y mynachod mor ddiolchgar i'w noddwr pwerus, Roger Bigod, fel eu bod yn dal i rannu elusen ar ei ran yn 1535. Ond erbyn hynny roedd Diwygiad Brenin Harri VIII yn Lloegr wedi hen ddechrau.
Flwyddyn yn ddiweddarach yn unig, ildiodd Tyndyrn yn rownd gyntaf diddymiad y mynachlogydd –ac o dipyn i beth dechreuodd yr abaty mawr droi'n adfail mawreddog.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
Abaty Tyndry Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Amseroedd agor
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–6pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau a Thocynnau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£8.55
|
Teulu* |
£27.36
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£6.03
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.92
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). O ddydd Llun 8 Ebrill, bydd y prisiau a ddangosir yn cynnwys gostyngiad o 10%. Bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod o amgylch yr eglwys Gothig yn Abaty Tyndyrn o ddydd Llun 8 Ebrill i’n galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tywodfaen ar waliau uchaf yr eglwys, gan eu bod yn hindreuliedig ac yn malurio. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ymweld â’r safle gogoneddus hwn. |
Cyfleusterau
Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae maes parcio mwy a rennir ger mynedfa'r abaty, codir tâl. Mae tua 55 o leoedd gan gynnwys 5 lle penodol i bobl anabl.
Mae lleoedd parcio penodol i fysiau. Mae hefyd faes parcio gorlif â 25 o leoedd, codir tâl.
Maes parcio Talu ac Arddangos – cerdyn yn unig £5 – bydd y ffi am barcio yn cael ei had-dalu wrth dalu am fynediad ac i aelodau Cadw.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.
Cyfarwyddiadau
Cod post NP16 6SE.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
TinternAbbey@llyw.cymru
Tyndyrn, NP16 6SE
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 689251
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.