Tyndyrn Rhamantaidd
Aeth adfeilion yr abaty yn angof nes y 18fed ganrif. Yna dechreuodd rhywbeth gwyllt a rhamantaidd gynhyrfu yng nghalonnau’r Prydeinwyr.
Roedd Tyndyrn ar drothwy ail oes aur – a’r tro hwn, yn gyrchfan pwysig i dwristiaid. Engrafiad poblogaidd gan y brodyr Buck, a gyhoeddwyd ym 1732, a ddechreuodd y cyfan. Dilynwyd hwn gan ddisgrifiad poblogaidd y Parchedig William Gilpin o’i fordaith ar Afon Gwy ym 1770.
Dywedodd mai Tyndyrn oedd yr olygfa harddaf oll – er ei fod yn teimlo bod lle i’w wella. Soniodd fod nifer o dalcenni’n ddolur llygad am eu rheoleidd-dra ac yn ffiaidd am eu siapiau cyffredin, gan awgrymu y gallai gordd fod yn ddefnyddiol.
Serch hynny, roedd adfeilion Tyndyrn yn eu gwisg iorwg yn destun cryn ddiddordeb rhamantaidd yn yr ‘Aruchel’ a’r ‘Darluniadwy’. Roedd teithwyr a gadwyd allan o Ewrop gan y Chwyldro Ffrengig a Rhyfeloedd Napoleon yn crwydro tirweddau gwyllt Prydain yn hytrach.
Daethant yn eu heidiau i Ddyffryn Gwy, gan gyrraedd ar gychod bychain yn gwegian dan fasgedi picnic. Ym 1792 roedd y dyn ei hun, JMW Turner, yn eu plith - ac yntau newydd droi’n 17 oed ac yn llawn disgwyliad ar ei daith go iawn gyntaf i Gymru.
Y brasluniau pensel a wnaeth yn Nhyndyrn oedd y deunydd crai ar gyfer y paentiadau dyfrliw gwych a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1794-95.
Erbyn hynny roedd y bardd William Wordsworth – yn ifanc, anesmwyth ac ar ei ben ei hun – eisoes wedi gweld Tyndyrn â’i lygaid ei hun. Ym mis Gorffennaf 1798, dychwelodd ar adeg hapusach gyda’i chwaer Dorothy ac ysgrifennu ei gerdd enwog‘Lines Composed a Few Miles Above Tintern Abbey’.
Erbyn hyn, roedd yr abaty, islaw creigiau serth ac uchel Wordsworth ar lannau ei goediog Afon Gwy, yn fwy na gweledigaeth ramantaidd yn unig. Roedd yn atyniad yn ferw o dwristiaid, yng nghanol y cardotwyr a’r darpar dywysyddion uchel eu cloch yn ceisio denu cwsmeriaid.
Mae pethau’n dawelach erbyn hyn. Ond nid yw’r waliau a’r bwâu mawr yn eu harddwch naturiol gwyllt wedi colli eu hud. Gweledigaeth o’r aruchel sydd yma o hyd.