Mae gogoniant mwyaf Tyndyrn, yr eglwys Gothig odidog, wedi sefyll yma ers dros 700 mlynedd gan groesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr.
Yn anffodus, nid oedd yr adeilad erioed i fod i oroesi heb ei do na'i ffenestri ac mae canrifoedd o hindreuliad wedi gwneud i waith maen y tywodfeini meddal erydu a phydru.
Mae'r eglwys ar gau i'r cyhoedd tra bod gwaith cadwraeth hanfodol yn cael ei ddatblygu i atal rhagor o gerrig rhag cael eu colli a'i gwneud yn ddiogel i ymwelwyr. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ni adeiladu sgaffaldiau uchel a thrwm iawn i gyrraedd ac atgyweirio'r tywodfeini hindreuliedig a’r dadfeilio ar waliau uchaf yr eglwys.
Dilynwch linell amser ein prosiect wrth i ni gychwyn ar un o'r prosiectau cadwraeth mwyaf uchelgeisiol yn ein hanes.
Profwch ryfeddod treftadaeth grefyddol adeiledig Cymru o’ch cartref...
31 Awst 2024
4 Ionawr 2024
20 Hydref 2023
Rhan 5 o’n cyfres fideo yn archwilio’r cofnodion hanesyddol sy’n cael eu dal fel rhan o’r prosiect hwn, gan gynnwys arolygon 3D a modelau digidol.
13 Hydref 2023
Rhan pedwar o’n cyfres fideo. Darganfyddwch pam mae angen i ni adeiladu sgaffaldiau tra uchel i barhau â’n gwaith.
6 Hydref 2023
Rhan tri o’n cyfres fideo. Darganfyddwch sut fyddwn yn defnyddio’r darganfyddiadau archeolegol o’r prosiect hwn i ddod i ddeall gorffennol y safle’n well.
29 Medi 2023
Sut cafodd Abaty Tyndyrn ei gadw yn y gorffennol?
Gorffennaf 2023
Pam bod angen atgyweirio'r abaty
19 Mehefin 2023
Darganfyddwch beth rydyn ni'n ei ddarganfod ar y tir mynachaidd canoloesol gwerthfawr hwn.
15 Mehefin 2023